Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs VRQ Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn bod yn gogydd, a dysgu am goginio, arlwyo a lletygarwch. Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar eich sgiliau presennol a datblygu repertoire ehangach o sgiliau gan gynnwys bwtsiera a gwaith siocled. Yn ychwanegol at eich sgiliau technegol, yn ein ceginau proffesiynol a bwyty hyfforddi Blasus, byddwch yn datblygu eich sgiliau goruchwylio wrth i chi ddechrau archwilio agweddau entrepreneuraidd gyrfa yn y celfyddydau coginio. Gyda chefnogaeth ymroddedig ein tîm darlithio profiadol iawn o gogyddion, byddwch yn goruchwylio ein ceginau yn ogystal â chreu a datblygu cynhyrchion newydd a chyffrous. Byddwch yn astudio gastronomeg ac yn datblygu agweddau goruchwylio diogelwch bwyd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein hymweliadau addysgol dramor. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth (CHA).