Crynodeb o’r cwrs
Mae cyfryngau cymdeithasol i fusnesau bellach yn fwy effeithiol nag erioed, os ydych chi am wella cyfryngau cymdeithasol eich busnesau yna fe allai’r cwrs hwn fod ar eich cyfer chi.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at berchnogion busnes, marchnatwyr, gweithwyr proffesiynol cysylltiadau cyhoeddus a phob unigolyn sy’n awyddus i ddod i ddeall sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i greu cynnwys hyrwyddo deniadol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:
– Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Twitter, LinkedIn, Instagram
– Deall sut mae gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gweithio, eu gwahaniaethau a’u manteision eu hunain
– Offer ar gyfer creu, monitro a chyhoeddi cyfryngau cymdeithasol
– Ennill hyder yn eich gweithgaredd marchnata cyfryngau cymdeithasol
– Creu cynnwys deniadol