Crynodeb o’r cwrs

Mae TGAU mewn Dawns yn gwrs rhan-amser wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau mewn tair prif faes craidd dawns: perfformio, coreograffi a gwerthfawrogiad.

Mae’r fanyleb hon yn cydnabod rôl dawns ym mywydau pobl ifanc ac yn canolbwyntio ar rinweddau esthetig ac artistig dawns, a’r defnydd symbolaidd o symudiad i fynegi a chyfleu syniadau a chysyniadau trwy’r prosesau cydgysylltiedig o berfformio, coreograffi a gwerthfawrogiad.

Mae Coleg Castell-nedd yn falch iawn o gynnig y cymhwyster TGAU Dawns i ddisgyblion ym Mlwyddyn 9, Blwyddyn 10, a Blwyddyn 11. Cyflwynir y cwrs dwys 1 flwyddyn dros un flwyddyn academaidd yn ystod sesiwn wythnosol ddwys gyda’r hwyr.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ysbrydoli, herio a chymell pob myfyriwr, ni waeth beth yw eu lefel gallu, gan gefnogi datblygiad gwersi creadigol a diddorol.

Y nod yw pontio’r bwlch rhwng TGAU, UG a Safon Uwch Dawns, gan roi’r sgiliau a’r profiad i fyfyrwyr i baratoi eu hunain yn well ar gyfer gofynion UG a Safon Uwch os ydynt yn dewis symud ymlaen ag astudio Dawns mewn Addysg Bellach.

Mae myfyrwyr presennol a blaenorol wedi cymryd rhan ac wedi ymrwymo i’r gweithgareddau dawns allgyrsiol a sefydlir gan Ddawns Coleg Castell-nedd mewn cydweithrediad â Chwmni/Academi Dawns LIFT, Cynhyrchiad Dawns Nadolig, a Gwyl Ddawns yr Haf.

Mae cyfleoedd hefyd drwy gydol y flwyddyn i gael clyweliad a hyfforddi gyda Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol a Chysylltiedigion Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel dawnsiwr ifanc yng Nghymru.

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n barod i ddechrau eich taith ddawns, datblygu eich sgiliau dawns a dysgu mewn amgylchedd ysbrydoledig, heriol a chefnogol, yna’r TGAU hwn mewn Dawns yw’r un i chi!