Crynodeb o’r cwrs

Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn bodloni gofynion y diwydiant i gyflawni rolau o fewn stiwardio a diogelwch gwylwyr.

Pwrpas y cymhwyster hwn yw cadarnhau cymhwysedd galwedigaethol a darparu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o Ddiogelwch Gwylwyr i ddysgwyr. Maent wedi’u mapio i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Skills Active (NOS) ar gyfer Diogelwch Gwylwyr 2019.

Mae cyflogwyr diogelwch gwylwyr yn pwysleisio’n gyson y pwysigrwydd a roddir ar ddysgwyr yn dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth trwy asesiadau sy’n seiliedig ar gymhwysedd.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i adlewyrchu’r gofynion hyn, gan asesu perfformiad dysgwyr yn y swydd.