Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth Cyfrifiadura yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyfrifiaduron a’r diwydiant TG. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth (CIT).

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i ddarparu cymwysterau arbenigol iawn sy’n gysylltiedig â gwaith yn y sector Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth. Ei nod yw rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Mae’r cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd datblygu gyrfa a llwybr dilyniant clir i addysg uwch a rhaglenni datblygiad proffesiynol o fewn yr un meysydd astudio neu feysydd cysylltiedig. Ar ddiwedd blwyddyn un, bydd myfyrwyr wedi cyflawni Diploma Sylfaen mewn TGCh.