Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod (Amser Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Mae Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt Menywod – VTCT (Amser Llawn) yn yng Ngrŵp Colegau NPTC yn gwrs Addysg Bellach amser llawn ar gyfer myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa ym maes trin gwallt o fewn y diwydiant trin gwallt a therapïau cymhwysol. Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn partneriaeth a Lee Stafford Education ac mae wedi’i ddatblygu gan Lee Stafford ei hun, gan gynnwys technegau a ‘ryseitiau’ unigryw wedi’u hysbrydoli gan y diwydiant sy’n adlewyrchu’r arddulliau mwyaf blaengar a welir mewn salonau ledled y DU.
Rhaid i fyfyrwyr fynychu cyfweliad cyn ymrestru. Rhaid i ddysgwyr fod wedi cyflawni Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt a bod â dau TGAU ar radd D neu uwch.
Gall y cymhwyster hwn arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth mewn salon fel steilydd iau neu at weithio fel triniwr gwallt annibynnol. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a/neu gyrsiau sgiliau uwch arbenigol.
Bydd y cwrs yn ymdrin â sgiliau torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampwio a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (gan gynnwys cydnabod afiechydon ac anhwylderau gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch salon sylfaenol, sgiliau hanfodol a manwerthu.
Mae’r asesiad yn cynnwys arsylwi gwaith ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, holi ar lafar a phrofion ysgrifenedig ar ddiwedd pob uned. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod â chleientiaid i ddosbarthiadau masnachol at ddibenion asesu. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cwblhau tasgau gwaith cartref, gan gynnwys llunio portffolio o dystiolaeth, cwblhau llyfrau gwaith ac ymarfer sgiliau ymarferol.
Bydd gofyn i fyfyrwyr brynu gwisgoedd a chit proffesiynol.