Crynodeb o’r cwrs

Mae Diploma Proffesiynol Lefel 4 UAL mewn Perfformio yn gwrs amser llawn sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i fyfyrwyr symud ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant conservatoire, neu’n uniongyrchol i gyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymestyn a mireinio eu sgiliau ymarferol tra’n diffinio eu diddordebau personol a’u maes arbenigedd eu hunain. Bydd yn galluogi myfyrwyr i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd o fewn strwythur cymhwyster sy’n ysgogol a heriol ac sy’n darparu trosglwyddiad cefnogol i naill ai hyfforddiant lefel uwch neu gyflogaeth.
Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau Lefel A neu Ddiploma Estynedig Lefel 3 ac sy’n dymuno parhau â’u haddysg trwy ddysgu cymhwysol.
Yma, yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn ymroddedig i ddarparu’r addysgu a’r dysgu gorau i bobl sydd am ddilyn gyrfa barhaol yn y Celfyddydau Perfformio.
Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau perfformio fel rhan o Ovation Theatre Company (Coleg y Drenewydd), gan ddefnyddio ein stiwdio drama/dawns a Theatr Hafren.