Crynodeb o’r cwrs

Trwy gwblhau’r cymwysterau hyn, bydd dysgwyr yn bodloni gofynion y diwydiant i gyflawni rolau goruchwyliol o fewn stiwardio a diogelwch gwylwyr.

Diben y cymwysterau hyn yw cadarnhau cymhwysedd galwedigaethol a darparu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o Ddiogelwch Gwylwyr i ddysgwyr. Maent wedi’u mapio i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Skills Active (NOS) ar gyfer Diogelwch Gwylwyr 2019.

Mae’r Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon (SGSA) yn arweinwyr ym maes diogelwch meysydd chwaraeon yn y DU ac wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cynnwys ein cymwysterau Diogelwch Gwylwyr yn adlewyrchu’r bygythiadau newidiol i ddigwyddiadau a mannau gorlawn.

Mae cyflogwyr diogelwch gwylwyr yn pwysleisio’n gyson y pwysigrwydd a roddir ar ddysgwyr i ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth trwy asesiadau sy’n seiliedig ar gymhwysedd.

Mae’r cymwysterau wedi’u cynllunio i adlewyrchu’r gofynion hyn, gan asesu perfformiad dysgwyr yn y swydd.