Crynodeb o’r cwrs

Trwy gwblhau’r cymwysterau hyn, bydd dysgwyr yn bodloni gofynion y diwydiant i gyflawni rolau goruchwyliol o fewn stiwardio a diogelwch gwylwyr.

Diben y cymwysterau hyn yw cadarnhau cymhwysedd galwedigaethol a darparu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o Ddiogelwch Gwylwyr i ddysgwyr. Maent wedi’u mapio i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Skills Active (NOS) ar gyfer Diogelwch Gwylwyr 2019.