Crynodeb o’r cwrs

Mae Tystysgrif Lefel 4 VTCT mewn Gwella Aeliau gyda thechnegau Microbladio yn gymhwyster therapïau uwch sydd wedi’i anelu at 18+ o ddysgwyr sy’n dymuno datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio Microbladio. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo a’i gefnogi gan awdurdod y Diwydiant Trin Gwallt a Harddwch (HABIA). Mae cymhwyster Lefel 3 Harddwch/Therapi Cymhwysol yn rhagofyniad.