Crynodeb o’r cwrs

Mae materion iechyd meddwl yn y gweithle yn bodoli ac yn effeithio ar bob unigolyn. Bellach, yn fwy nag erioed, anogir busnesau i berchnogi lles gweithwyr a gallwn eich helpu i gyflawni hyn.

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu cynnwys Ymwybyddiaeth Lefel 1 FAA ar gyfer Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ehangu ar effeithiau cyffuriau ac alcohol, yn ymgorffori’r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ymdrin â ffyrdd y gellir cefnogi diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol o fewn gweithle.

Beth yw Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl?
– Nodi cyflyrau iechyd meddwl
– Rhoi cyngor a dechrau sgwrs
– Straen
– Cyflyrau iechyd meddwl
– Cyffuriau ac alcohol
– Cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
– Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn y gweithle