Crynodeb o’r cwrs

Mae’r UG/Safon Uwch mewn Technoleg Ddigidol yn gwrs Addysg Bellach llawn amser sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am dechnolegau digidol gan eu galluogi i ddatblygu sgiliau y gellir eu defnyddio mewn gyrfaoedd sy’n defnyddio technolegau digidol.
Defnyddir technoleg ddigidol ym mhobman yn y byd sydd ohoni ac mae galw mawr am bobl sydd â sgiliau i ddefnyddio a datblygu’r technolegau hyn. Mae’r rhaglen yn cyfuno sgiliau ymarferol gyda theori academaidd. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae arloesiadau mewn technoleg ddigidol, a’r lefelau cynyddol o gysylltedd rhyngddynt, yn effeithio ar fywydau’r rhai sy’n eu defnyddio. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddatblygu cynhyrchion digidol creadigol ac atebion digidol i broblemau a wynebir gan sefydliadau.