Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cyrsiau rhifedd hyblyg hyn wedi’u hanelu at grwpiau bach o ddysgwyr sy’n oedolion nad oes ganddynt gymhwyster rhifedd neu fathemateg lefel 2 ac sy’n bwriadu dychwelyd i addysg a / neu uwchsgilio i ymuno â’r farchnad gyflogaeth. Rydym yn rhagweld gweithio gyda grwpiau cymunedol bach neu unigolion. Gellir cynnal gwersi ar gampysau’r Coleg ar draws ardal CNPT, neu mewn canolfannau cymunedol lleol, llyfrgelloedd neu ganolfannau allgymorth ar draws ardal CNPT. Er bod myfyrwyr yn elwa’n fawr o ddarpariaeth a chymorth personol, bydd cyfleoedd y gellir eu teilwra i weddu i unigolion lle mae darpariaeth hybrid neu ar-lein yn fwy addas.
Bydd yr holl wersi yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr pwnc ac mewn sesiynau dan arweiniad athrawon.
I gyd-fynd â’r cyflwyniad, bydd dyfeisiau digidol addas yn cael eu darparu i’r myfyrwyr yn ystod y gwersi. Byddwn yn defnyddio’r rhain i ymgorffori’r defnydd o MathsWatch, sef llwyfan dysgu deallusol, rhyngweithiol, digidol. Mae fideos byr yn ymdrin â chynnwys, cwestiynau ymarfer a chwestiynau arddull arholiad sy’n gysylltiedig â manyleb TGAU CBAC. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau astudio annibynnol a llythrennedd digidol. Gall myfyrwyr ddefnyddio rhaglen MathsWatch gartref, i ailymweld, adolygu a chryfhau ymhellach eu dealltwriaeth o’r pynciau dan sylw. Gallant hefyd weithio ymlaen llaw a chynyddu gwybodaeth bynciol cyn y gwersi.
Gall myfyriwr sy’n cwblhau’r cwrs yn llawn ac asesiadau cymhwyster terfynol fod yn gymwys i dderbyn dyfais ddigidol i’w chadw.