Crynodeb o’r cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr, sydd â phrofiad ac sy’n gymwys ar lefel 3 mewn gweithio gyda phlant, o’r egwyddorion a’r damcaniaethau gwaith chwarae sy’n sail i ymarfer gwaith chwarae. Nod y cymhwyster hefyd yw ymdrin â sut mae cymhwyso egwyddorion a damcaniaethau gwaith chwarae yn darparu fframwaith sy’n galluogi ac yn cefnogi chwarae plant, a’u datblygiad cyffredinol. Mae hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrio ar arfer y dysgwr ei hun ac yn cefnogi dilyniant i gymwysterau gwaith chwarae seiliedig ar gymhwysedd