Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs Sbaeneg Lefel UG / Lefel A yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Fe’i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ieithoedd a datblygu eu sgiliau Sbaeneg.

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu hyderus, effeithiol yn Sbaeneg a dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant gwledydd a chymunedau lle siaredir Sbaeneg.

Bydd y cwrs yn meithrin diddordeb mewn dysgu iaith, a brwdfrydedd drosto, ac yn annog myfyrwyr i ystyried eu hastudiaeth o’r iaith mewn cyd-destun ehangach.

Mae’r themâu sy’n ymdrin â’r cwrs yn cynnwys bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy’n siarad Sbaeneg a deall y byd Sbaeneg ei iaith, yn ogystal ag Amrywiaeth a Gwahaniaeth a The Two Spain’s 1936 ymlaen.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.