Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs Lefel 1 hwn mewn weldio wedi’i gynllunioi roi cyflwyniad ymarferol i chi i weldio ac i ddarparu cymhwyster achrededig mewn proses weldio unigol o’ch dewis: MMA, MIG neu TIG. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu sgiliau craidd, deall arferion gweithio diogel a magu hyder mewn amgylchedd gweithdy, o dan arweiniad tiwtor profiadol. Mae’n fan cychwyn delfrydol os ydych yn ystyried dyfodol ym meysydd weldio neu beirianneg, neu os hoffech ddatblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â’ch swydd bresennol.

Diwrnod ac amser: Dydd Llun, 5pm–9pm
Dyddiad dechrau: Mis Medi 2026 neu fis Ionawr 2027
Hyd: 16 wythnos

I bwy mae’r cwrs hwn?
• Oedolion sydd eisiau uwchsgilio ochr yn ochr â chyflogaeth neu ymrwymiadau eraill
• Dysgwyr ag ychydig bach neu ddim profiad blaenorol o weldio sy’n ystyried gyrfa mewn weldio neu beirianneg
• Rhai brwdfrydig yn eu hamser hamdden sy’n chwilio am hyfforddiant strwythuredig ymarferol

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Arferion gweithio diogel a defnydd cywir o gyfarpar weldio
• Sgiliau weldio ymarferol yn eich proses o ddewis MMA, MIG neu TIG
• Sut i gynhyrchu uniadau wedi’u weldio sylfaenol

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi ennill cymhwyster Lefel 1 mewn weldio ac wedi datblygu’r hyder i weithio’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylchedd gweithdy.