Crynodeb o’r cwrs

Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am swydd a thechnegau crefft uwch yn eich llwybr dewisol. Byddwch hefyd yn dysgu dehongli lluniadau adeiladu a chyfrifo defnyddiau a chostiadau. Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau fel modd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Opsiynau masnach sydd ar gael:
– Gwaith Saer ac Asiedydd / Toi (Aberhonddu, Maesteg, Castell-nedd, Y Drenewydd, Abertawe)
– Gwaith Sifil Gwaith Brics ac Adeiladu (Aberhonddu, Maesteg, Castell-nedd, Y Drenewydd, Abertawe)
– Plastro ac Adeiladu Sifil (Maesteg, Castell-nedd, Abertawe)
– Peintio a Theilsio (Castell-nedd, Y Drenewydd)