Crynodeb o’r cwrs
Bydd y rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno datblygu ystod eang o sgiliau ym maes twristiaeth, digwyddiadau a busnes. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r mewnwelediadau angenrheidiol i chi allu datblygu dealltwriaeth o reoli sefydliadau twristiaeth a digwyddiadau yn fwy effeithiol.
-
Gofynion Mynediad
Mae’r meini prawf mynediad yn nodweddiadol, ond mae’r Coleg yn ystyried pob cais ar ei ben ei hun sy’n golygu y gallwn roi cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, prof l personol a phro ad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas a^’ch cynnig, cysylltwch a^’n Ti^m Derbyniadau. Cynnig nodweddiadol: 1 Safon Uwch gradd C neu 2 Safon Uwch Gradd E brof l MP/PPP mewn cymhwyster Lefel 3 BTEC a 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
-
Rhagolygon Gyrfa
Y llwybr dilyniant cydnabyddedig yw trydedd wyddyn BA (Anrh) mewn Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau. Mae gan raddedigion gy eoedd cy ogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau ym maes twristiaeth a digwyddiadau, er enghraifft: cynadledda a rheoli digwyddiadau, ymgynghoriaeth dwristiaeth a chynllunio, trefnu teithiau, y diwydiant hedfan, marchnata ac ymgynghori.
-
Modiwlau’r cwrs
Bydd y rhaglen hon yn cynnwys darlithoedd, gwaith maes a sesiynau ymarferol a thiwtorial. Mae modiwlau Blwyddyn 1 yn cynnwys: Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol, Ymddygiad mewn cyfundrefnau, Cyfiwyniad i Letygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau, Marchnata ym meysydd Twristiaeth, Lletygarwch, Digwyddiadau a'r Celfyddydau Coginio, Arferion Gweithredu Digwyddiadau, Lletygarwch Cyfoes. Mae modiwlau Blwyddyn 2 yn cynnwys: Rheoli Digwyddiadau, Adnoddau Dynol Cyfoes mewn Cyd-destun, Lleoliad Gwaith ar gyfer Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau, Cynaliadwyedd Twristiaeth Ryngwladol, Rheoli Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth Dywyll.
-
Asesiad
Fel arfer bydd angen i chi gwblhau portffolios, cy wyniadau a thasgau ysgrifenedig wrth i chi fynd yn eich blaen, a sefyll arholiadau fel arfer ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
-
Costau Ychwanegol
Teithio i'ch lleoliad gwaith ac adref.
Dull Astudio
Amser Llawn
Lleoliad
Coleg Castell-nedd
Hyd y cwrs
2Y
Cod UCAS
098N
Côd Sefydliad
N13