Mae Busnes a’i bynciau cysylltiedig, fel cyllid, cyfrifeg, rheolaeth, marchnata ac economeg, ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Mae galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, ac oherwydd bod busnes yn cyffwrdd â bron bob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern, mae gyrfaoedd gyda gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn cael eu talu’n uchel.
Mae’r sector twristiaeth hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth rhagorol yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r ystod o gyfleoedd mewn twristiaeth yn helaeth, o reoli digwyddiadau a gweithredwyr teithiau i griw caban a marchnata twristiaeth.
Mae Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu’r sectorau llwyddiannus a deinamig hyn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd yn y diwydiant i sicrhau profiad dysgu ysgogol a chadarnhaol.
Beth fydda i’n ei wneud?
Bydd y rhai sy’n astudio Busnes yn agored i gyfleoedd i gwrdd ag arbenigwyr mewn gwahanol feysydd trwy weithdai ac ymweliadau, a byddant yn elwa o gysylltiadau o’r radd flaenaf â busnesau lleol, gan sicrhau dealltwriaeth ddofn o sut mae cwmnïau’n cael eu rheoli a’u rhedeg.
Mae meysydd pwnc yn amrywiol, gyda chyfleoedd ymarferol i ddatblygu a dysgu sgiliau allweddol mewn marchnata, cyllid, adnoddau dynol, diwydiant byd-eang ac economeg, yn ogystal â meithrin dyheadau’r entrepreneur modern.
Bydd y rhai sydd â diddordeb mewn twristiaeth yn dysgu am y sector deinamig a newidiol hwn drwy ystod o feysydd pwnc a bydd ganddynt y cyfle i gyfarfod ag amrywiol arbenigwyr i nodi’r cyfleoedd sydd ar gael wrth ymuno â’r diwydiant cyffrous hwn. Mae myfyrwyr yn ystyried teithio domestig a thramor ac maent yn allweddol wrth gynllunio a chefnogi ystod o ddigwyddiadau ac ymweliadau twristiaeth drwy gydol eu hastudiaethau.
Cyfleoedd Gyrfa
- Cyfrifeg
- Gweinyddiaeth fusnes
- Criw caban
- Swyddi llongau mordeithio
- Rheoli digwyddiadau
- Cyfrifeg fforensig
- Rheoli gwestai
- Adnoddau dynol
- Marchnata
- Cynrychiolaeth dramor
- Twristiaeth wledig
- Brocer stoc
- Rheoli a datblygu twristiaeth
- Gwaith asiantaeth deithio
- Rheoli atyniadau ymwelwyr
- Cynllunio priodasau