Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs yn adeiladu ar sgiliau a gyflwynwyd ar y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon ac yn datblygu technegau tylino chwaraeon datblygedig, gan gynnwys rhyddhau meinwe meddal, pwyntiau sbarduno, techneg niwrogyhyrol, tylino meinwe gyswllt a thechneg egni cyhyrau.

Bydd y cwrs hefyd yn arfogi dysgwyr â sgiliau asesu clinigol cymhleth, gan gwmpasu prif gymalau y corff. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cael yswiriant ac ymarfer gyda chlwb chwaraeon neu weithio gyda chleientiaid preifat.

Mae gan diwtor y cwrs flynyddoedd lawer o brofiad ym maes therapi chwaraeon gan gynnwys Gemau Olympaidd Llundain a Gemau’r Gymanwlad, wrth redeg clinig arbenigol llwyddiannus.