Crynodeb o’r cwrs

Mae Diploma Lefel 2 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno ennill profiad a sgiliau mewn ystod eang o feysydd diwydiant y cyfryngau.

Os ydych chi wedi ymrwymo i astudio ymhellach neu yrfa mewn cynhyrchu cyfryngau a’r Celfyddydau Creadigol, yna dyma’r cwrs i chi. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Greadigol, Gweledol a Pherfformiad (CVP).

Mae’r maes llafur yn cynnig amrywiaeth eang o unedau yn amrywio o dechnegau cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu mewn teledu, fideo, hysbysebu, ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol. Mae creadigrwydd a dychymyg yn allweddol, tra bod sgiliau dadansoddi da yn bwysig wrth wireddu’ch syniadau cynhyrchiol.