Gwasanaethau Llyfrgelloedd : Llyfrau A MWY…

Mae’r llyfrgelloedd yn ganolog i fywyd coleg. Mae gennym lyfrgelloedd wedi’u hofferu’n llawn mewn pedwar o’n colegau yn Afan, Aberhonddu, Castell-nedd a’r Drenewydd. Ym mhob lleoliad fe gewch yr wybodaeth, yr offer, y cymorth a’r arweiniad y mae’u hangen arnoch i’ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau.

Angen gwybodaeth? Mae hi gennym ni!  Yn ein llyfrgelloedd fe gewch fod 30,000+ o lyfrau a channoedd o DVDs, cylchgronau a phapurau newydd. Ar-lein mae gennym 1,000+ o e-lyfrau, gwasanaethau ffrydio fideo a llwythi o adnoddau arbenigol na fyddech yn gallu dod o hyd iddynt trwy ddefnyddio Google yn unig, a’r cyfan ar gael bob awr o’r dydd a phob dydd o’r wythnos.

Mynnwch gymorth a chyngor.  Yn llyfrgell pob coleg mae gennym dîm o arbenigwyr a all eich helpu i gynyddu eich potensial i’r eithaf a gwneud cynnydd gyda’ch astudiaethau. Mae staff llyfrgelloedd yn rhoi cymorth un-i-un, neu’n gweithio gyda grwpiau bychain a dosbarthiadau cyfan, gan helpu gyda phrosiectau ymchwil ac aseiniadau. Mae’r tîm yn arbenigwyr mewn dod o hyd i wybodaeth ac yn hapus i helpu, dim ond i chi ofyn!

Ymwelwch â ni i gael astudio mewn amgylchedd hamddenol a chroesawus.    Mae pob llyfrgell yn cynnig lle i chi fynd lle gallwch ymchwilio, adolygu a chwblhau aseiniadau. Mae lle i chi weithio mewn grŵp gyda ffrindiau neu, os yw’n well gennych gael tawelwch, mae gan bob llyfrgell ystafell astudio dawel lle gallwch weithio heb i neb na dim darfu arnoch.

Mae gennym gyfrifiaduron: llawer ohonynt!  Mae cyfrifiaduron, gliniaduron ac iPads ym mhob un o’n llyfrgelloedd. Darperir cyswllt wi-fi di-dâl a diogel ar draws safleoedd ein colegau os yw’n well gennych ddefnyddio eich dyfais symudol chi eich hun. Yng ngholegau Afan a Chastell-nedd, gellir neilltuo cyfrifiaduron ymlaen llaw felly gallwch gael mynediad yn ddi-ffael pan fydd angen un arnoch.

Ai dyna’r cyfan?  Rydym hefyd yn darparu…

  • cyfleusterau llungopïo ac argraffu
  • deunydd ysgrifennu i’w brynu
  • gwasanaeth rhwymo a lamineiddio
  • gwasanaeth ailosod cyfrineiriau
  • cardiau adnabod / pasys bws newydd
  • ymgyrchoedd hyrwyddo a digwyddiadau rheolaidd.