Yng Ngrŵp NPTC, awn ati i annog ein myfyrwyr
Cymraeg eu hiaith a’n myfyrwyr sy’n dysgu’r Gymraeg i
ddefnyddio’r iaith lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae’r
coleg yn cynnal llawer o glybiau a gweithgareddau drwy
gydol y flwyddyn sy’n addas i chi, beth bynnag lefel eich
sgiliau yn y Gymraeg.
Os hoffech gyflawni eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg
neu gwblhau’ch gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg, ac
mae staff sy’n siarad Cymraeg yn dysgu yn y meysydd
pwnc perthnasol, gwnawn bob ymdrech i’ch helpu i
astudio yn yr iaith o’ch dewis. Mae cyfleoedd ar gael
i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i barhau i ddatblygu’u
sgiliau ieithyddol drwy gyflawni cymwysterau
ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os ydych yn dod i’r Grŵp NPTC o ysgol cyfrwng Cymraeg,
byddwch yn cwrdd ag Angharad, y Cydgysylltydd
Datblygu Dwyieithog yn ystod y tymor cyntaf, i gael
manylion am y Gymraeg yn y coleg!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Angharad Morgan
Cydgysylltydd Datblygu Dwyieithog
(Campysau Castell-nedd Port Talbot)
E-bost – angharad.morgan @nptcgroup.ac.uk
Ffôn: 01639 648409

Robin Gwyn
Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd (Campysau Powys)
E-bost: robin.gwyn@nptcgroup.ac.uk
Ffôn: 0845 4086410