Ydych chi erioed wedi meddwl am rannu eich sgiliau neu deimlo y gallech chi addysgu mewn addysg bellach neu Goleg? Os oes gennych chi angerdd dros rannu eich sgiliau, fe allech chi wneud athro neu ddarlithydd anhygoel.
Gallwch newid bywydau heb newid eich gyrfa – defnyddiwch eich profiad, sgiliau diwydiant a gwybodaeth.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn cynnal Digwyddiad Gwybodaeth Ewch i Addysgu lle gallwch gael gwybod mwy.

Dydd Mercher 24 Ebrill
4pm – 7pm
Coleg Castellnedd
Nid oes angen archebu lle

Darganfyddwch sut y gallech chi ddechrau addysgu ac archwilio’r gwahanol gyfleoedd gwaith yng Ngrŵp Colegau NPTC, sy’n cynnwys rolau Darlithydd, Technegydd, Hyfforddwr, Aseswr a Chymorth Astudio. Bydd cefnogaeth wrth law i’ch arwain trwy’r holl lwybrau i addysgu a’r cymwysterau sydd eu hangen i’ch cyrraedd yno.

Pwy allwch chi ei weld:
  • Tîm AD Grŵp Colegau NPTC
  • JGR Educate – partner athrawon llanw y Coleg
  • Staff TGAU
  • Staff TAR/PCet

Bydd ein darlithwyr arbenigol o bob rhan o’r Coleg wrth law i siarad am amrywiaeth o gyrsiau a chymwysterau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd cyflwyniadau yn rhedeg drwy gydol y noson yn dangos pa mor werth chweil y gall gyrfa ym myd Addysg fod, yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael, a’r llwybrau niferus i addysgu.