Cyn-fyfyrwyr

Mae graddio gyda Grŵp Colegau NPTC yn golygu ymuno â chymuned fyd-eang o gyn-fyfyrwyr, rhwydwaith parod o lysgenhadon a chysylltiadau posib. Fel rhan o gyn-fyfyrwyr Grŵp Colegau NPTC, mae gennych gyfle i sefydlu cysylltiadau gydol oes, meithrin perthnasoedd gwaith neu greu rhwydweithiau cymdeithasol amhrisiadwy.

Rhesymau dros Gadw mewn Cysylltiad

Digwyddiadau ac aduniadau unigryw, e-gylchgrawn blynyddol, ac ystod o wasanaethau yw rhai o’r rhesymau dros gadw mewn cysylltiad ar ôl graddio. Rydym yn ceisio diwallu anghenion esblygol graddedigion. Mae ein cymuned yn croesawu ystod o gyfryngau cymdeithasol gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn dal i fyny gyda’r diweddaraf o bob campws ac yn mynychu digwyddiadau neu’n gweithio gyda chyn-fyfyrwyr.

Cliciwch y botwm isod i ddarganfod mwy.

Cyn-fyfyrwyr Grŵp Colegau NPTC