Mae’n swyddogol – Graddau myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yw’r gorau yng Nghymru!

It's Official, Students Rate NPTC Group of Colleges The Best In Wales, black, red and grey badge in Welsh.

Grŵp Colegau NPTC yw’r lle gorau i astudio yng Nghymru! felly does dim amser gwell i ymrestru yn un o’i golegau.

Mae’r Coleg yn rhif un ar gyfer boddhad myfyrwyr am ei fod yn dod ar y brig yn y tabl cynghrair sy’n cynnwys prifysgolion a cholegau ar draws y DU.  Gofynnwyd i fyfyrwyr roi sgôr boddhad mewn perthynas â’u cyrsiau addysg uwch neu’u cyrsiau gradd fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS).

100% boddhad oedd y sgôr o ran cymorth academaidd ac roedd bron 95% yn fodlon ar ansawdd eu cwrs – 17% yn uwch na chyfartaledd y sector yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ni chynhwysir yr un gosodiad yn yr arlowg yn Lloegr felly nid oes data cymharol ar gael, sut bynnag, mae’r Coleg yn perfformio’n well na phrifysgolion a cholegau eraill y DU mewn saith o’r naw categori a gynhwysir yn yr arolwg yn 2023; addysgu ar fy nghwrs, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth; cymorth academaidd; trefnu a rheolaeth; llais myfyrwyr; cyfathrebu o ran gwasanaethau cymorth.

Yn y categorïau hyn, roedd y canrannau’n uwch o lawer na chyfartaledd y sector yng Nghymru a’r DU, yn cynnwys y rhai canlynol: asesu ac adborth 14 % yn uwch; trefnu a rheolaeth 18.5% yn uwch a llais myfyrwyr 18 % yn uwch na sgôr gyfartal y sector.

Ychydig yn llai na 340,00 oedd y nifer o fyfyrwyr a gyflawnodd yr arolwg blynyddol ar draws y DU ac atebodd 15,296 o fyfyrwyr yng Nghymru, sy’n cyfateb i gyfradd ymateb o 74.1 %.

Dywedodd Mark Dacey Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd gyda’r canlyniadau ond nid oedd yn beth annisgwyl.

“Mae Grŵp Colegau NPTC yn darparu amgylchedd dysgu ardderchog a chymorth rhagorol i fyfyrwyr ac mae canlyniadau’r arolwg yn dyst i hyn.  Mae ymrwymiad ein staff heb ei ail.  Rydym wir yn Goleg cynhwysol, cymunedol sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o raglenni i bawb, yn cynnwys ein rhaglen addysg brifysgol ardderchog a ddarparir mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr a Pearson ac sy’n cynnwys graddau BSc (Anrh) a graddau BA (Anrh), Graddau Sylfaen, cymwysterau HNC, cymwysterau HND, Tystysgrifau/Diplomâu Addysg Uwch, Tystysgrifau mewn Addysg a Thystysgrifau mewn Addysg i Raddedigion.

Dywedodd Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid yn y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: “Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn parhau i fod yn un o’r dulliau pwysicaf i fyfyrwyr o rannu eu barnau am eu sefydliad.  Gall yr adborth hwn gwmpasu amrywiaeth o agweddau ar ddysgu, addysgu ac asesu a chyfle i roi gwybod os ydynt yn teimlo bod eu lleisiau fel myfyrwyr wedi cael eu gwrando arnynt.”