Llundain yn galw ar fyfyriwr dawns Coleg Castell-nedd

Mae Jordan Cranny, myfyriwr dawns talentog o Goleg Castell-nedd wedi ennill lle yn London School of Contemporary Dance, un o’r sefydliadau mwyaf eu bri ym maes hyfforddiant dawns proffesiynol yn y DU. Dechreuodd Jordan ei hyfforddiant dawns yng Ngholeg Castell-nedd ym mis Medi 2018, ond cyn hynny nid oedd ef erioed wedi dawnsio o’r blaen!

Ymunodd Jordan â’r Coleg i astudio ar y cwrs Lefel 3 BTEC mewn Dawns, a gydlynwyd gan y darlithydd dawns arbenigol Craig Coombs yn 2018.  Ond nid dyma oedd ei ddewis cyntaf, ymrestrodd am gwrs Gwyddoniaeth Fforensig ar y dechrau, ond ar ôl mynychu sesiwn flasu  ysbrydoledig mewn dawns gyda Craig, cafodd Jordan ei hudo gan ddawnsio heb byth edrych yn ôl.

Dywedodd Craig Coombes, cyn-ddawnsiwr gyda Beyond Repair sydd wedi gweithio gyda sêr fel Kylie Minogue a’r Black Eyed Peas:

“Ar ôl dysgu Jordan am y ddwy flynedd ddiwethaf mae ei lwyddiant yn rhywbeth anhygoel.  Dyma’r tro cyntaf i unrhyw fyfyriwr dawns Coleg Castell-nedd gael cynnig o hyfforddiant ar lefel gradd yn y London School of Contemporary Dance.  Mae Jordan wedi mynd ati gyda meddwl agored i gofleidio cael eu dysgu gan ei ddarlithwyr dawns a dyna’r allwedd i lwyddo mewn unrhyw amgylchedd dysgu dawns.

“Mae Jordan wedi gweithio’n galed i gymryd rhan yn yr holl gyfleoedd sydd wedi bod ar gael iddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn y coleg. Mae wedi mynychu llu o ymweliadau theatr dawns a gweithdai dawns proffesiynol gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant dawns fel Richard Alston a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.  Mae’n haeddu’r cyfle hwn i ehangu ei hyfforddiant dawns gan obeithio ymbaratoi ar gyfer gyrfa mewn dawns. ”

Mae Jordan yn bwriadu dechrau ar ei hyfforddiant ymarferol ym mis Medi ac mae bellach yn gwneud popeth yn ei allu i ymbaratoi, ar yr un pryd â pharhau gyda’i astudiaethau Coleg gartref.  Dywedodd Jordan;

“Mae astudio yng Ngholeg Castell-nedd wedi fy mharatoi i symud ymlaen i hyfforddi yn un o brif ganolfannau’r byd ar gyfer dawns gyfoes.  Mae’r cwrs Lefel 3 BTEC mewn Dawns wedi rhoi hyfforddiant i mi ar draws llawer o ddisgyblaethau dawns ac oherwydd hyn, roeddwn yn barod i gael clyweliad ar gyfer cyrsiau prifysgol ar draws y DU a thramor.  Dwi wedi mwynhau datblygu fy sgiliau jazz, ballet, tap a dawns fasnachol, ond fy hoffter o goreograffi a dawns gyfoes yw’r peth a dynnodd sylw ata i yn fy nghlyweliadau eleni. ”

Mae gan y cwrs Lefel 3 BTEC mewn Dawns enw rhagorol am helpu myfyrwyr i lwyddo i gael llefydd mewn prifysgolion uchel eu parch a chanolfannau hyfforddi arbenigol ym myd dawns.  Aeth Jordan ymlaen i ddweud:

“O dan hyfforddiant Craig Coombs ac Elise Addiscott, dwi wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol i wella fy nhechneg ddawnsio i safon clyweliadau’r diwydiant.  Dwi’n mwynhau sut mae fy holl ddarlithwyr wedi gwthio fy ngallu fel fy mod wedi ymdrechu i lwyddo yn yr holl weithgareddau dawns y mae adran ddawns y coleg yn eu darparu. ”

Jordan yw un o brif ddawnswyr cwmni dawns swyddogol BTEC lefel 3 ‘One Vision’ ac mae’n mynd ymlaen i ddweud:

“Mae dawnsio fel rhan Gwmni Dawns ‘One Vision’ yn y Coleg wedi dysgu i fi beth yw gwerth gwaith tîm a dwi wedi mwynhau fy amser gyda fy nghyfoedion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.  Dwi wedi cael cyfle i berfformio gyda’r Academi Ddawns LIFT a Fairy Tale Productions yn y Coleg ac mae’r profiadau hyn wedi bod yn hanfodol o ran datblygu fy sgiliau. ”

“Mae fy narlithwyr dawns yn y Coleg wedi bod yn ysbrydoledig ac wedi gwneud i fi gyrraedd fy ngwir botensial.  Oni bai am eu hymroddiad, yn ogystal ag arweiniad staff cymorth y coleg, fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw … mynd i hyfforddi yn London School of Contemporary Dance. ”

Mae’r cwrs Lefel 3 BTEC mewn Dawns yn rhoi cyfleoedd i’w holl fyfyrwyr ddewis eu llwybr gyrfa i fynd i mewn i’r diwydiant dawns a’r gofal a’r sylw unigol a roddir i’r myfyrwyr sy’n allweddol i lwyddiant y myfyrwyr.  Mae cyfradd basio o 100% ar y cwrs a bob blwyddyn mae’r myfyrwyr yn derbyn llu o gynigion ar gyfer cyrsiau dawns mewn prifysgolion o fri.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dawns, nid yw’n rhy hwyr i ymuno â ni y mis Medi hwn.   I wneud cais ewch i nptcgroup.ac.uk