Rôl Llysgennad Iechyd Meddwl ar gyfer Myfyriwr Safon Uwch

Mae myfyriwr Safon Uwch, Erin Sandison o Goleg Castell-nedd, sy’n digwydd bod yn Ddirprwy Faer Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, wedi’i ddewis i fod yn llysgennad iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol.

Dewiswyd Erin, 17 oed o Gastell-nedd, ar gyfer y rôl gan Inspirational Futures, sefydliad a sefydlwyd gan athrawon i gynnig cymorth ar lesiant ac ymwybyddiaeth ofalgar i ddisgyblion, rhieni a staff addysgu eraill.

Ar hyn o bryd mae hi’n astudio cymwysterau Safon Uwch mewn seicoleg, cymdeithaseg, a hanes yn y coleg ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i astudio troseddeg yn y brifysgol y flwyddyn nesaf. Mae Erin hefyd yn aelod gweithgar o Gyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot a chafodd ei sefydlu’n ffurfiol fel y Dirprwy Faer Ieuenctid cyntaf erioed mewn seremoni yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot fis Medi diwethaf.

Yn ei rôl nodedig fel llysgennad bydd Erin yn gweithio ochr yn ochr ag Inspirational Futures i helpu i hyrwyddo gweithdai a gweithgareddau i bobl ifanc i’w helpu gyda’u llesiant a’u paratoi’n well ar gyfer y byd ehangach. Bydd gofyn i Erin roi cyhoeddusrwydd i ddeunyddiau addysgol, rhannu holiaduron ac ymgynghori â phobl ifanc gan gynnwys Cyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot i gyflwyno arferion iechyd meddwl cadarnhaol o oedran cynnar.

Erin yng Ngwobrau’r Uchel Siryf y llynedd

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant:

“Hoffwn longyfarch Erin ar gael ei dewis i fod yn llysgennad ar gyfer Inspirational Futures.

“O dan yr amgylchiadau presennol, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’r holl faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a sut maen nhw’n gallu gwneud newidiadau cadarnhaol i’w ffordd o fyw.”

Dywedodd Erin:

“Dwi wrth fy modd i gael fy newis ar gyfer y rôl hon, ac ar y cyd ag Inspirational Futures, byddaf yn gwneud fy ngorau glas dros blant a phobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dwi’n frwd dros gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl o blentyndod, trwy eu harddegau nes iddynt gyrraedd eu llawn dwf. Mae gen i awch am helpu pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial a gyda chefnogaeth Cyngor Ieuenctid CnPT, dwi’n credu bod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen. ”

Mae Mark Dacey, Pennaeth Grŵp Colegau NPTC bob amser yn falch o glywed pa mor dda y mae myfyrwyr y colegau yn perfformio y tu allan i’r Coleg, gan ddweud:

‘ Rydym yn annog pob un o’n myfyrwyr i feddu ar ddyheadau uchel ac rydym yn eu cefnogi i ddod yn unigolion amryddawn, nid yn unig o safbwynt academaidd, ond y tu allan i’r ystafell ddosbarth hefyd.  Mae campau Erin hyd yma yn anhygoel ac mae bob amser yn peri syndod i mi faint o bethau y gall pobl ifanc gyfrannu ato a chyflawni yn eu cymunedau lleol. Llongyfarchiadau Erin!