Myfyriwr Dawns Coleg Castell nedd yn Ennill Lle yn Athrofa Celfyddydau Perfformio Bryste (BIPA)

Dechreuodd Casey-Jane Lewis astudio ar gyfer Diploma lefel 3 BTEC mewn Dawns a Safon Uwch mewn Dawns ym mis Medi 2019 ar ôl sylweddoli, er mwyn dilyn ei breuddwyd o ddod yn berfformiwr theatr gerddorol, y byddai angen arni yr hyfforddiant dawns arbenigol y mae Grŵp Colegau NPTC yn ei ddarparu dan gyfarwyddyd yr Arweinydd Pwnc a’r Cydlynydd Cwrs ar gyfer Dawns, Craig Coombs.

Gyda’r bwriad o astudio’r cwrs blwyddyn mewn dawns, ar ôl dau dymor yn unig, mae Casey wedi cael sawl cynnig i hyfforddi mewn sefydliadau addysg uwch. Erbyn hyn, mae wedi derbyn ei hoff gynnig gan Athrofa Celfyddydau Perfformio Bryste (BIPA) lle bydd hi’n dechrau ar ei breuddwyd gyrfa gydol oes.

Dywed Casey;

“Cyn dechrau ar y cyrsiau dawns yng Ngholeg Castell-nedd nid oeddwn erioed wedi astudio dosbarthiadau bale neu ddawns gyfoes o’r blaen. Yr oeddwn wedi clywed am enw da proffesiynol adran ddawns Coleg Castell-nedd, a llwyddiant y myfyrwyr dawns o’r Coleg. Roeddwn yn gwybod er mwyn cael cyfle i gael lle ar gwrs theatr gerddorol bod rhaid i mi astudio yno.”

“Ar ôl treulio dim ond dau tymor yn y coleg, dydw i ddim yn gallu credu faint mae fy sgiliau dawns wedi gwella. Erbyn hyn rwy’n teimlo bod gen i’r sgiliau i gerdded i mewn i ddosbarth dawns a sefyll allan am yr holl resymau cywir – a dyna wnes i yn fy nghlyweliadau ar gyfer y brifysgol eleni.”

Roedd yn amlwg i Craig Coombs, tiwtor personol Casey, fod ganddi’r potensial i lwyddo mewn clyweliadau ar gyfer y brifysgol.

Ar ôl gweithio i’r Coleg am dros 15 mlynedd, dywedodd;

“Mae Casey’n gweithio’n galed. Mae hi’n chwaraewr tîm da, yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig iawn, ac mae hi wedi gweithio’n galed i baratoi ar gyfer ei chlyweliadau prifysgol eleni. Mae’r datblygiad yn ei sgiliau wedi bod yn bleser cael bod yn rhan ohono, a gobeithio y bydd yn parhau i ddefnyddio’r gwersi a addysgwyd yng Ngholeg Castell-nedd i lywio ei hyfforddiant yn y dyfodol.”

Mae Casey yn mynd ymlaen i ddweud;

“Mae adran ddawns Coleg Castell-nedd wedi fy siapio i’n llwyr yn fersiwn well ohonof fy hun. Rwy’n teimlo fy mod wedi ailddarganfod fy angerdd am berfformio mewn genre hollol newydd ac rwy’n teimlo’n barod i ddechrau fy hyfforddiant proffesiynol mewn canu, dawnsio ac actio nawr. Byddwn yn argymell y cwrs dawns yng Ngholeg Castell-nedd i unrhyw un sydd am fynd ymlaen i hyfforddi’n broffesiynol naill ai mewn dawns neu theatr gerddorol yn y brifysgol. Mae’r hyfforddiant yn gweithio.”

Ac yn olaf, dywed Casey;

“Fyddwn i byth wedi mynd ymlaen i’r cwrs yr wyf wedi breuddwydio am ei ddilyn heb gymorth, amynedd ac arweiniad fy narlithydd dawns Craig Coombs a gweddill y tîm darlithio dawns talentog yng Ngholeg Castell-nedd.”

Mae Casey yn edrych ymlaen at ddechrau ei chwrs newydd yn y brifysgol ym mis Medi 2020.