Y cam nesaf i Caine

Mae Caine Ballantine, myfyriwr Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn bwriadu dilyn ei yrfa fel Dadansoddwr Troseddau ac mae ei amser yn y Coleg yn dod i’w ben.

Bydd Caine yn cychwyn ar ei astudiaethau newydd ym Mhrifysgol Bangor lle bydd yn astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gan obeithio cael gafael ar ei swydd ddelfrydol fel dadansoddwr troseddau gyda’r Heddlu.

Ychwanegodd: “Rydw i wastad wedi eisiau gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â Gorfodi’r Gyfraith, a’r Gyfraith; ac fe helpodd y Coleg fi i gulhau trwy’r holl alwedigaethau posib, i Ddadansoddwr Troseddau ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth gyda hyn. “

Roedd y cwrs sy’n cynnwys amrywiaeth o aseiniadau yn caniatáu i Caine ddatblygu ei wybodaeth ac ychwanegodd: “Cadwodd fy nhiwtoriaid fy sylw ar y gwaith, ac roedd y cwrs hyd yn oed yn fwy cynhwysol o ganlyniad. Pwy a ŵyr ei bod hi’n haws dysgu am bethau rydych chi am ddysgu amdanyn nhw? O ran cefnogaeth, roedd fy nhiwtoriaid yn seintiau. ”

Yn ystod ei amser yn y coleg aeth Caine trwy rai cyfnodau anodd gyda’i ddarlithwyr yn sefyll yn ei ymyl bob cam o’r ffordd, ychwanega: “Roedden nhw yno i mi o ran gwaith, o ran iechyd, ac o ran gwybodaeth gyffredin hefyd.”

Trwy fodiwl Bagloriaeth Cymru llwyddodd Caine i gael y cyfle i hyfforddi amryw o chwaraeon fel Pêl-fasged, Pêl-droed, Badminton, ac Athletau! Yn ogystal â gweithio gyda phlant yn Ysgol Y Bannau a ganiataodd iddo ddefnyddio ei sgiliau siarad Cymraeg fel siaradwr iaith gyntaf.

Aeth ymlaen i ddweud: “Rwy’n credu bod Grwp Colegau NPTC yn ddewis ymarferol i unrhyw un sydd eisiau mynd ymlaen i’r Brifysgol, ac sydd am fwynhau’r profiad dysgu ar hyd y ffordd.”