Cipolwg ar TG yng Ngrŵp Colegau NPTC

Roedd Jordan Hammer, ugain oed, yn ansicr ynghylch yr hyn yr oedd am ei wneud ar ôl cwblhau cwrs blaenorol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, roedd Jordan yn gwybod ei bod am uwchsgilio cyn ymgeisio i’r brifysgol.

Tynnodd y cwrs CIT sylw Jordan ac mae’n ychwanegu: “Roeddwn i eisiau parhau gyda fy addysg, i ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y dyfodol, gan fod TG yn cael mwy o effaith ar ein bywydau bob dydd wrth i amser fynd yn ei flaen.”

Ychwanegodd Jordan Hamer a enillodd Ragoriaeth a dau deilyngdod: “Roeddwn i wrth fy modd yn mynd i’r coleg oherwydd gwnes i’r grŵp mwyaf anhygoel o ffrindiau y llwyddais i gael hwyl gyda nhw a chreu atgofion anhygoel gyda nhw.”

Mae Jordan sy’n gweithio ar sail ran-amser ym maes manwerthu yn bwriadu cychwyn ar gwrs Prifysgol Agored ym mis Hydref lle y bydd yn astudio Saesneg Iaith. Wedyn, mae Jordan yn gobeithio symud ymlaen i gwrs TAR a dechrau gyrfa addysgu a dysgu Saesneg fel ail iaith i fyfyrwyr dramor.

Gwnaeth Zilvinas Milvyas 19 oed gais i ymuno â’r cwrs Lefel 3 mewn TG yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn 2017. Gan nad oedd ganddo’r gofynion mynediad, cofrestrodd ar y cwrs Lefel 2 mewn TG a roddodd gyfle iddo ddatblygu ei sgiliau Saesneg gan mai Saesneg yw ei ail iaith. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, aeth ymlaen i’r rhaglen Lefel 3. Yn 2019, derbyniodd Zil Wobr John Brunt a roddir i fyfyriwr sydd wedi trechu adfyd. Dyma beth oedd gan Zil i’w ddweud am y coleg.

Mae Zil a gyflawnodd teilyngdod triphlyg yn y cwrs yn ychwanegu: “Dewisais fynd i Goleg Bannau Brycheiniog oherwydd hwn oedd y dewis gorau nesaf i mi, gan nad oedd gen i raddau digon uchel i fynd i’r chweched dosbarth. Yn bersonol, dwi’n credu pe baswn i wedi mynd i’r chweched dosbarth, baswn i wedi ei gasáu felly dwi ddim yn difaru fy mhenderfyniad. Yn y coleg fe wnes i fwynhau’r trafodaethau grŵp a’r gwaith dosbarth gan iddo wneud i mi weithio gydag eraill a dod allan o fy mharth cysur. Ar hyn o bryd, rydw i’n mynd i astudio datblygu gemau fideo ym Mhrifysgol De Cymru am 4 blynedd. Rwy’n gobeithio cael fy musnes fy hun yn y pen draw a fydd yn cynhyrchu gemau fideo. ”

Mae’r cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn TG, gyda Lefel 1 a 2 hefyd yn cael eu cynnig yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, yn garreg sarn tuag at lawer o yrfaoedd. Beth bynnag yr ydych yn penderfynu ei wneud, rhaid i chi fod yn ymwybodol o seiberddiogelwch a rheoliadau, sut i reoli gwybodaeth a phrosiectau, sut y gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ac yn anad dim sut y gellir defnyddio TG mewn busnesau. Efallai y byddwch hefyd am ddylunio a datblygu gêm, creu gwefan, dylunio logo, graffig neu animeiddiad a chreu ap symudol trwy ddefnyddio rhaglennu. Fel y gallwch weld, mae’r cwrs hwn yn rhoi blas ar wahanol feysydd TG ac mae’n addas i unrhyw fyfyrwyr p’un a ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant TG neu beidio.

Cysylltwch â helen.griffiths@nptcgroup.ac.uk am wybodaeth bellach ar gyrsiau sy’n amrywio o Lefel 1 i Lefel 3.