Allgymorth y Fyddin yng Ngrŵp Colegau NPTC

Fel rhan o raglen barhaus Grŵp Colegau NPTC o ymgysylltu â’r Fyddin, mwynhaodd grwpiau a ddyrannwyd o fyfyrwyr Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gwasanaeth Cyhoeddus ddiwrnod o ddarparu gwybodaeth a gweithgareddau a gynhaliwyd gan Dîm Allgymorth Byddin Prydain yng Nghrughywel.

Roedd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniad rhagarweiniol yn amlinellu’r ystod eang o rolau yn y fyddin, gan gynnwys: brwydro, deallusrwydd, meddygol, peirianneg, Adnoddau Dynol, gweinyddiaeth, logisteg a chefnogaeth a cherddoriaeth. Dilynwyd hyn gan gyfres o ymarferion datrys problemau a gwaith tîm. Ar ôl cinio, cymerodd myfyrwyr ran mewn nifer o weithdai a oedd yn cynnwys coginio a dogni, cit ac offer a chuddliwio a chuddio.

Roedd gan y tîm o naw bersonél o’r fyddin brofiad eang gan feddu ar wahanol safleoedd a rolau. Roeddent yn cynnwys Milwyr Cyffredin, Is-gorporaliaid a Chorporaliaid o’r adrannau Logisteg, AD, Magnelwyr a’r Troedfilwyr.

Roedd y myfyrwyr yn frwdfrydig yn eu hagwedd tuag at yr heriau a osodwyd ac wedi mwynhau’r diwrnod. Mae yna gynlluniau i drefnu digwyddiad ymgysylltu pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn i gynnwys myfyrwyr o ystod o feysydd pwnc ar draws y Coleg.