Talentau Cudd Hyfforddiant Pathways

Defnyddiodd Clive Green o Hyfforddiant Pathways, Coleg Y Drenewydd ei amser yn ystod y cyfnod clo trwy mewn dull cynhyrchiol trwy ddod allan o’i ymddeoliad fel canwr canu gwlad a gwerin i recordio albwm elusennol er mwyn codi arian ar gyfer Support Children with Cancer UK.

Ymddeolodd Clive & Sandra Green, cantorion canu gwlad a gwerin arobryn, aka Country Company, o’r diwydiant cerddoriaeth yn 2013, ar ôl 24 mlynedd fel cerddorion proffesiynol a 10 mlynedd cyn hynny fel canwyr lled-broffesiynol  Fe wnaethant fwynhau clod lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gan dderbyn dros 70 o wobrau Deuawd Gorau ar lefel clwb a chael eu henwi fel y Deuawd Cerddoriaeth Canu Gwlad a Gwerin Prydeinig Mwyaf Poblogaidd yn y DU ar dri achlysur gwahanol gan ddarllenwyr “Country Music Round-Up Newspaper”.

Gyda llawer o amser sbâr yn ystod cyfnodau cloi 2020, fe wnaethant benderfynu recordio CD newydd, er eu bod wedi gorfod gweithio o bell gyda cherddorion a pheirianwyr recordio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon maent wedi llwyddo i gynhyrchu eu halbwm newydd sbon. “From Here to the Moon and Back”. Mae gan yr albwm 11 o ganeuon gwlad a gwerin gwych ac mae ar gael am £11 gan gynnwys P&P.

Os hoffech gael un neu fwy o’r CDs, maent ar gael trwy’r llwybrau canlynol;

Paypal

E-bost

Neu os ydych chi am gefnogi Clive i godi arian i’r elusen yna dilynwch y linc isod:

Just Giving – Clive Green