Dyfarnu’r Wobr Gyntaf i Fyfyrwyr o Grŵp Nptc Mewn Cystadleuaeth Ddylunio

Mae grŵp o fyfyrwyr o Grŵp Colegau NPTC (Colegau Castell-nedd Porth Talbot) wedi dod i’r brig mewn cystadleuaeth ddylunio flaenllaw ar ôl creu cyfarpar arbenigol er mwyn annog disgyblion ysgol ar hyd a lled Cymru i ddewis llwybrau galwedigaethol.

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o fenter Troi Eich Llaw Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o annog disgyblion ysgol i ystyried llwybrau galwedigaethol ac roedd myfyrwyr Addysg Bellach o bob cwr o Gymru wedi dylunio ac adeiladu pecynnau rhyngweithiol i’w defnyddio mewn ysgolion a digwyddiadau diwrnod agored.

Daeth y tîm o tua 20 o fyfyrwyr gwyddor fforensig a TG i’r brig yn erbyn pedwar o golegau eraill yn y Digwyddiad Choose Your Future, a gynhaliwyd ym Mhowys.

Aeth y tîm ati i greu meddalwedd o rith-olygfeydd troseddol i’w defnyddio gyda chlustffonau rhith er mwyn annog myfyrwyr sy’n ystyried astudio gwyddor fforensig, TG a gwasanaethau proffesiynol i ddewis y cyrsiau hynny.

Enillodd y tîm £500 i’w coleg, a dywedodd Charlie Lawrence, un o aelodau’r tîm, ei bod wrth ei bodd gyda’r canlyniad.

Meddai’r myfyriwr 18 oed o Bontardawe, sy’n dilyn diploma estynedig BTEC lefel 3 ar hyn o bryd mewn Gwyddor Fforensig yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Gwaith tîm oedd hwn gan NPTC. Fe benderfynon ni greu model o sefyllfa droseddol ar gyfer disgyblion sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth a gwaith cymdeithasol, felly aethom ati i gydweithio â’r adran TG i greu profiad o rith-wirionedd.

“Ar y cyfan, ychydig iawn o bobl sydd â gwybodaeth am y pwnc, dim ond yr hyn maen nhw’n ei weld ar sioeau teledu Americanaidd, felly dyma feddwl ei bod yn bwysig rhoi blas i ddisgyblion ysgol o’r profiad o astudio gwyddor fforensig. Roedd yn rhaid mynd ati wedyn i greu model o olygfa o lofruddiaeth, cymryd ffotograffau o’r cliwiau a chydweithio â myfyrwyr TG er mwyn defnyddio cod i greu naidlenni digidol gyda gwybodaeth addysgol sydd i’w gweld drwy gogls rhith-wirionedd yn unig.

“Cafwyd llawer o geisiadau gwych ond rydyn ni’n credu bod ein cais ni’n sefyll allan oherwydd ein bod wedi cyfuno dau bwnc ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn TG yn ogystal ag mewn gwyddorau fforensig. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r darn o gyfarpar a gobeithio y byddwn yn annog y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr fforensig.”

Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi mewn amrywiaeth o gyfarpar Troi Eich Llaw sydd a’r nod o annog myfyrwyr i ystyried llwybrau o hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer dilyn gyrfa o’u dewis. Mae’r pecyn yn cynnwys cit robotig addysgol, hyfforddwr hydrolig, set addysgu technoleg wyrdd a phecyn animeiddio,

Bydd yr adnoddau hyn o’r radd flaenaf o’r sector gweithgynhyrchu, peirianneg, adeiladu, trafnidiaeth, gwasanaethau cymdeithasol a phroffesiynol, TGCh ac astudiaethau creadigol yn cael eu harddangos mewn ysgolion, diwrnodau agored y colegau, a digwyddiadau sgiliau ar hyd a lled y wlad.

Roedd y ceisiadau i’r gystadleuaeth yn cynnwys model o dŷ, gweithgarwch datrys problemau â phibelli a cheir trydan ar drac rasio.

Meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Fe wnaethom ni fuddsoddi mewn 15 o ddarnau o gyfarpar Troi Eich Llaw y llynedd fel y gall myfyrwyr, rhwng 13-16 oed yn bennaf, sy’n cychwyn meddwl am eu dewisiadau ar ôl ysgol, roi cynnig ar amrywiaeth o alwedigaethau cyn penderfynu ar lwybr gyrfa.

“Drwy ofyn i fyfyrwyr cyfredol y coleg ddylunio’r darnau newydd hyn o gyfarpar, rydyn ni wedi gallu defnyddio eu profiadau a’u gwybodaeth er mwyn rhoi darlun cliriach i ddisgyblion ysgol o sut brofiad yw dilyn y cyrsiau galwedigaethol hyn.

“Pan fo pobl yn ystyried hyfforddiant galwedigaethol, maen nhw’n tybio’n aml iawn mai ar gyfer meysydd fel trin gwallt a mecaneg yn unig y mae e, ond mae hyn yn gwbl anghywir. Mae hyd a lled y cyfleoedd i ddatblygu sgiliau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru yn eang iawn ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cyfarpar Troi Eich Llaw yn helpu i ddenu’r rhai a oedd yn credu’n flaenorol nad oedd llwybrau galwedigaethol iddyn nhw, i ailystyried.”