Mae Syniad gwych David yn llwyddiant ysgubol

NPTC Red & Black logo

Mae David Vaughan, disgybl Busnes Lefel 3 sydd yn mynychu Coleg Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) wedi’i tharo hi i’r dim a chreu syniad busnes sydd newydd ennill y disgybl wobr am ei ymdrechion.

Mae’r bachgen 17 mlwydd oed wedi sefydlu’i fusnes ei hunan yn gwerthu wyau soflieir yn ardaloedd Aberhonddu a Llanfair ym Muallt i westai, bwytai a fistros.

Mae’r disgybl wedi bod yn gweithio gyda Swyddog Menter y Coleg Kelly Jordan ac Ymgynghorydd Busnes Cymru Samantha Allen i ymbaratoi ar gyfer Bootcamp Cymru Syniadau Mawr ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn. Yn ogystal â gweithdai a chyngor gan arbenigwyr, cafodd mynychwyr y cyfle i rwydweithio gydag entrepreneuriaid talentog ac uchelgeisiol a oedd o’r un cyfeiriad meddwl a ddaeth o golegau, prifysgolion a’r gweithle.

Gwnaeth David argraff ffantastig ar y beirniaid gyda’i ymrwymiad i’w fusnes a’i adar sofliar ac yna cafodd ei wobrwyo gyda’r wobr am y Broliant Gorau.

Dywedodd Swyddog Menter y Coleg Kelly Jordan: “Mae gweithio gyda David wedi bod yn ffantastig, a chael cyfle i’w helpu fe i dyfu ei fusnes ac ennill y cyhoeddusrwydd mae’n ei haeddu.”

Mae’r adran Menter a Chyflogadwyedd yng Ngrŵp Colegau NPTC yn cefnogi hen fyfyrwyr yn ogystal â myfyrwyr presennol i feddwl yn fwy entrepreneuraidd ac ennill mwy o sgiliau cyflogadwyedd yn barod am y byd gwaith neu sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal ar draws wyth campws y coleg diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru a Syniadau Mawr Cymru. Mae’r gwaith yn rhan o’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) i annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a helpu’r rheiny sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain a symud eu syniadau yn eu blaen.

Os ydych yn meddwl am ddechrau’ch busnes eich hunain, cysylltwch â Centerprise, Grŵp Colegau NPTC, ar 01639 648567 neu e-bostiwch centerprise@nptcgroup.ac.uk