Dilyn y ffordd i fod y bedwaredd genhedlaeth o’i theulu i ymuno â’r heddlu

Mae Rhiannon Griffiths, 22, yn cychwyn ar stori deuluol gyfarwydd, wrth ddod yn Gwnstabl Griffiths y Pedwerydd, un ar ôl y llall, gan ddilyn yn gamre ei thad, ei thad-cu a’i hen daid.

Astudiodd Rhiannon Dystysgrif mewn Gwybodaeth am Blismona (CKP) yng Ngrŵp Colegau NPTC a bydd hi’n cychwyn ar ei swydd fel heddwas y mis hwn, ar ôl cwblhau ei hyfforddiant  a gweithio wedyn i Heddlu Dyfed Powys.

Dechreuodd y stori deuluol ym 1928 pan oedd ei hen daid David Haydn Griffiths yn gweithio i Heddlu Sir Gaerfyrddin yn Llanelli, De Cymru. Roedd tad-cu Rhiannon, Ray Griffiths yn gwnstabl gyda Heddlu Morgannwg o 1951 i 1981 ac roedd ei dad, Marc Griffiths, yn gweithio i’r heddlu am 30 mlynedd cyn ymddeol yn 2008.

Dywedodd Rhiannon: “Dwi’n cofio amser storïau, byddai fy nhad yn darllen llyfrau hwiangerddi ond wedyn roedd e’n dweud wrtha i am ei swydd a beth oedd e’n gwneud fel heddwas, neu fe fyddai’n rhuthro maes i’r gwaith ac roedd popeth yn swnio mor gyffrous.  Cefais fy ysbrydoli i ymuno â’r heddlu ar ôl clywed straeon amser gwely cyffrous pan yn ferch, a nawr rydw i wedi dod yn ôl i’r cychwyn am mai Llanelli, sef fy ngorsaf i, oedd gorsaf fy hen daid i hefyd, 90 mlynedd yn ôl!”

Dywedodd hefyd: Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau ond dwi’n nerfus hefyd.  Bydda i’n defnyddio’r holl waith ein bod wedi ei wneud hyd yn hyn mewn ffordd ymarferol am y tro cyntaf drwy fynd cam ymhellach.”

Os hoffech ddod yn heddwas neu os hoffech gyflawni cwrs CKP gyda Grŵp Colegau NPTC, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar 01639 648720 neu cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y cyrsiau mewn gwasanaethau cyhoeddus a phlismona yn Academi Chwaraeon Llandarcy.

Capsiwn ar gyfer y llun: Rhiannon gyda’i thad Marc Griffiths