Diwrnod VQ Day yng Ngrŵp Colegau NPTC

Daeth staff a myfyrwyr ar draws Grŵp Colegau NPTC at ei gilydd i gefnogi Diwrnod VQ (Cymwysterau Galwedigaethol) ar ddydd Iau 3 Mai.

Mae gen ni nifer uchaf erioed o ganlyniadau Rhagoriaeth Driphlyg mewn cannoedd o bynciau galwedigaethol.

Beth yw Diwrnod VQ?

Mae cymhwyster galwedigaethol yn wobr gydnabyddedig sydd wedi ei gynllunio i roi i ddysgwyr wybodaeth, sgiliau a / neu gymhwysedd sy’n uniongyrchol berthnasol i drywydd gwaith neu swydd benodol.

Mae Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) ar gael o Lefel Mynediad i Lefel 8 ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Gall cymwysterau amrywio o ran maint a lefel o, er enghraifft, tystysgrif Lefel Mynediad mewn Datblygiad Plant, hyd at Ddiploma Lefel 8 yn y Cyfarwyddyd ac Arweinyddiaeth.

Pam ydyn ni’n dathlu?

Mae cymwysterau galwedigaethol yn haeddu’r un clod a chydnabyddiaeth ag y caiff cymwysterau academaidd. Cynhelir diwrnodau canlyniadau TGAU a Lefel A, felly beth am ddiwrnod i ddathlu cymwysterau galwedigaethol? Diwrnod VQ amdani!

Bu cymwysterau galwedigaethol erioed yn fwy pwysig i’r economi a’r unigolyn; maent yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau yn eu crefu, ac maent yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith.

Hoffem weld pawb yn dod ynghyd i gydnabod sut y gall cymwysterau galwedigaethol o safon uchel wella cyfleoedd mewn bywyd a gwaith.

Sut ydyn ni’n dathlu?

Mae Diwrnod VQ yn llwyddiannus diolch i’r llu o ysgolion, colegau, darparwyr seiliedig ar waith, busnesau a dysgwyr sy’n cymryd rhan ar draws y wlad.

Gallwch gymryd rhan yn y Diwrnod VQ mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy gynnal digwyddiadau, enwebu dysgwyr a chyflogwyr ac ymgysylltu eich ACau a’ch Aelod Seneddol lleol.

Pwy sy’n cymryd rhan?

Trefnir Diwrnod VQ ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Cymwysterau Cymru a ColegauCymru / CollegesWales.

 

Mwy o wybodaeth

Edrychwch ar ein cyrsiau yma