Wythnos Addysg Oedolion yng Nghanolfan Byd Gwaith Aberhonddu

Bydd Coleg Bannau Brycheiniog yn rhoi cyfle i chi ddysgu am y cyfleoedd addysg oedolion sydd ar gael gennym yn lleol, wrth i ni ymweld â Chanolfan Byd Gwaith Aberhonddu ym mis Mehefin.

Cynhelir y digwyddiad gwybodaeth ar ddydd Mawrth 19 Mehefin (10.00am-3.00pm) yn ystafell gynadledda’r Ganolfan fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion.

Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y graddau sydd ar gael gennym ar garreg eich drws, ein cyrsiau busnes a chyrsiau mewn gofal plant, i enwi ychydig ohonynt yn unig.

Bydd triniaethau harddwch a maldodi, arddangosiadau trin gwallt a llawer o luniaeth ar gael yn ystod y digwyddiad.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, felly galwch heibio i weld beth sydd ar gael gennym!

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau, cliciwch yma