Grŵp Colegau NPTC ar y brig wrth lansio academi dronau newydd

Drone Academy Neath College

Mae Grŵp Colegau NPTC ar y brig wrth iddo lansio academi dronau mewn partneriaeth â RUAS, yr Endid Cymwys Cenedlaethol mwyaf hirsefydlog a achredwyd gan Awdurdod Hedfan Sifil y DU (CAA) ar gyfer darparu cyrsiau hyfforddiant ar gyfer awyrennau di-griw bach (dronau). Bydd yr academi yn galluogi dysgwyr i gyflawni NVQ Lefel 4 yn dwyn y  teitl dros dro Egwyddorion a Gweithrediadau Dronau (awyrennau di-griw bach).

Mae’r bartneriaeth ar fin creu a datblygu cyrsiau dronau newydd. Byddai cymeradwyo’r cymwysterau hyn i ddangos cydymffurfiad a chymhwysedd mewn gweithrediadau dronau yn rhoi Grŵp Colegau NPTC a RUAS ar flaen y gad yn y diwydiant, gyda’r Coleg yn dechrau cynnig y cyrsiau hyn yn yr hydref.

Bydd hyn yn caniatáu i’r genhedlaeth nesaf o beilotiaid dronau  ennill y sgiliau angenrheidiol i gefnogi’r rhestr gynyddol o fusnesau sy’n gweld mantais defnyddio dronau yn eu cwmni. Gydag effaith dronau ar ddiwydiant yn cynyddu, felly hefyd mae’r galw am beilotiaid o bell sy’n meddu ar y sgiliau perthnasol a chydnabyddedig sydd eu hangen i hedfan yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymateb i’r diwydiant hwn sy’n datblygu drwy hyfforddi, drwy RUAS, 17 o’u tîm i safon gweithredwr dronau masnachol. Mae RUAS yn llawn cyffro i fod yn rhan o ddatblygu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth am dronau ar draws Cymru wrth i ddysgwyr, mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC, ennill y wybodaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant dronau sy’n datblygu’n gyflym.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC:

“I ddarparu gwasanaeth o ansawdd yr ydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda RUAS wrth i ni rannu gallu i ddarparu gweithrediadau dronau gan ddefnyddio arbenigedd y ddau sefydliad.

Y cyfle y mae hyn yn ei roi i Gymru, cyflogwyr ac unigolion ar draws y rhan fwyaf o sectorau busnes yw rhagoriaeth mewn gweithrediadau hyfforddiant dronau. Bydd hyn hefyd yn darparu cyfleoedd yn fyd-eang, ac yr ydym eisoes mewn trafodaethau datblygedig gyda sefydliadau mewn nifer o wledydd.”

Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Awyrennau Di-griw yn RUAS, ei fod yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth gyda’r Coleg i greu a datblygu rhaglen newydd o gyrsiau dronau a dulliau cymorth ehangach. Dywedodd:

“Yr ydym wedi hyfforddi peilotiaid o bell yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar draws diwydiannau yn cynnwys y gwasanaethau brys, cyfryngau rhyngwladol a sefydliadau’r Llywodraeth. Fel rhan o’n perthynas gyda Grŵp Colegau NPTC, rydym yn falch o fod wedi hyfforddi eu staff i helpu i ddarparu cyrsiau, ac rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan o’r datblygiad hwn o ran hyfforddiant ac ymwybyddiaeth am dronau ar draws Cymru.”