Gwobrau Jennifer Melly Law

Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobrau’r Gyfraith Grŵp Colegau NPTC eleni. Cafodd Danielle O’Shea a Sam Freeman eu gwobrwyo yn y seremoni a noddwyd a chynhaliwyd gan Jennifer Melly Law ar 15 Mehefin 2018.

Roedd y ddau fyfyriwr yn arbennig o ymrwymedig i’w hastudiaethau ac roeddent yn llysgenhadon defnyddiol ar gyfer digwyddiadau yn y Coleg fel Nosweithiau Agored a Diwrnodau Blasu.  Ar ôl cyflawni eu cymwysterau Safon U yng Ngrŵp Colegau NPTC, aeth Danielle a Sam ymlaen i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd y ddau yn cyflawni profiad gwaith gyda Jennifer Melly Law yr haf hwn.

Mae pawb yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dymuno pob lwc i Danielle a Sam am ddyfodol disglair a llwyddiannus.