Symud gyda’r Oes

Mae teithiau bws yn cael ei wneud yn haws drwy dechnoleg newydd a thocynnau am bris gostyngol i fyfyrwyr Grŵp Colegau NPTC.

Mae’r Coleg wedi bod yn cyd-weithio â’r gweithredwr bysiau First Cymru i helpu i hwyluso teithio i’r coleg ac adre ac mae technoleg yn chwarae ei rhan hefyd, gyda chyflwyniad yr ap mticket.

Mae’r ap yn eich galluogi i brynu tocynnau unrhyw adeg o’r dydd a’u storio yn eich ffôn  felly ni fydd angen poeni am ddod o hyd i docynnau sydd wedi mynd ar goll neu arian parod i dalu am y daith. Gellir prynu amrywiaeth o docynnau yn cynnwys tocynnau wythnosol a misol ymlaen llaw hefyd. Bydd gofyn i deithwyr ddod â’u ffôn i sganio eu tocynnau symudol wrth neidio ar y bws a dyna i gyd fydd ei eisiau – proses gyflymach o lawer.

Cynigir teithio gostyngol hefyd trwy fyngherdynteithio sef cynllun gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cerdyn yn rhoi 1/3 disgownt i bobl yng Nghymru 16-18 oed oddi ar bris eu teithiau bws.

Mae’r cynllun wedi’i gyflwyno yn sgil ymgynghoriadau ac mae’n cynnig yr opsiwn mwyaf effeithlon a chost-effeithiol ar gyfer myfyrwyr. Yn anffodus, mae’r coleg wedi wynebu gostyngiadau parhaus o safbwynt ei gyllid craidd am nifer o flynyddoedd, a bu’n rhaid iddo amsugno effaith y ffaith bod yr Awdurdod Lleol wedi cael gwared â chymorthdaliadau teithio; Roedd yr holl ffactorau hyn ynghyd â chynnydd prisiau First Cymru yn golygu y byddai’r ffioedd arfaethedig am yr hen gerdyn bws wedi bod yn afresymol i fyfyrwyr eu talu.

Ystyriwyd nifer o opsiynau gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Grŵp Colegau NPTC ac mae cyflwyniad fyngherdynteithio bellach wedi’i gymeradwyo a bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i barhau i gael mynediad i addysg drwy ganiatáu teithio diderfyn yn ardal Bae Abertawe am gyn lleied â £2.31 y dydd.

Gellir prynu tocynnau bws erbyn hyn drwy’r ap mticket, sydd ar gael o’r app store neu google play drwy ddefnyddio ffôn clyfar, ond am wybodaeth bellach cysylltwch â www.firstgroup.com/cymru  neu ewch i  fyngherdynteithio.llyw.cym i gofrestru a dechrau arbed.