Ar Drothwy Llwyddiant

Mae Eve Vincent ar ei ffordd i Goleg Clare, Caergrawnt ar ôl ennill A* mewn Ffrangeg a graddau A mewn Saesneg a Hanes mewn Safon Uwch.

Yr hyn sy’n anarferol am stori Eve yw y bydd hi’n astudio Ffrangeg a Rwsieg yng Nghaergrawnt ar ôl addysgu Rwsieg iddi hi’i hun o 15 oed!

Ar ôl casglu ei chanlyniadau, dywedodd Eve: “Mae gen i obsesiwn gydag ieithoedd ac rwy’ wedi caru Ffrangeg ers amser maith. Datblygais hoffter mawr o’r Rwsieg ar ôl taith hanes i’r Almaen tra yn yr ysgol. Aethon ni i ymweld â llawer o henebion hanesyddol ac roedd llawer ohonynt ag ysgrifen Rwsieg arnynt. Roedd yr iaith yn ddifyr ac yn ddiddorol iawn i mi ac roeddwn yn awyddus i allu deall ystyr yr ysgrifen. Roeddwn wedi fy ysbrydoli i’r fath raddau fe benderfynais addysgu Rwsieg i mi fy hun.”

Pan benderfynodd Eve bod arni eisiau astudio Rwsieg yn y brifysgol, gofynnodd am gymorth Nina, myfyriwr Rwsiaidd a oedd yn astudio Saesneg yng Ngholeg Castell-nedd. “Cafodd ei magu yn ystod cyfnod USSR hanes Rwsia felly roedd ei  safbwynt hi ar bethau yn werthfawr iawn i mi,” eglurodd Eve.  “Doedd hi ddim yn siarad llawer o Saesneg pan wnes i gwrdd â hi, ond buon ni’n siarad yn gyfforddus yn y ddwy iaith. Roedd hi bob amser yn dod â chylchgronau, llyfrau, straeon a mapiau Rwsiaidd fel y gallwn ymarfer fy Rwsieg, a dysgu am y diwylliant, a gallai rhannu ei phrofiad a’i gwybodaeth gyda mi.”

Gwnaeth Eve a Nina gyfarfod ddwywaith yr wythnos yn Llyfrgell Castell-nedd lle roedd Eve hefyd yn gallu helpu Nina i wella ei Saesneg, ac mae’r ddwy nawr yn ffrindiau pennaf. “Mae hi wedi dilyn fy nhaith drwy’r broses ymgeisio i Gaergrawnt yn eithaf agos ac wedi bod yn gefnogol,” meddai Eve.

Mae Eve hefyd wedi datblygu ei Rwsieg yn annibynnol drwy apiau iaith a YouTube i gyfathrebu â Rwsiaid yn eu harddegau. “Rwy’n defnyddio Skype a llwyfannau eraill ar-lein ac wedi gwneud llawer o ffrindiau Rwsiaidd a dw i’n sgwrsio’n rheolaidd â nhw am ein bywydau a materion cyfoes, i ymarfer fy iaith. Hefyd, rwy’n anfon llythyrau a chardiau post i’r ffrindiau sydd gen i yn Rwsia,” meddai Eve.

Mae Eve yn barod iawn i nodi nad oes yn rhaid i’w stori hi fod yn unigryw. “Doeddwn i byth yn meddwl y gallai rhywun fel fi fynd i rywle fel Caergrawnt. Yr wyf yn falch o’m gwreiddiau ac yn dod o ystâd cyngor.  Fi yw’r person cyntaf yn fy nheulu i fynd i brifysgol, felly roedd yr holl beth yn newydd iawn i ni i gyd. Cefais lawer o gefnogaeth gan fy nheulu yn ystod y broses ymgeisio, ond eto nid oedd gennyf syniad beth i’w ddisgwyl. Rwyf wastad wedi bod yn ymwybodol o’r ffaith bod angen i mi astudio’n galed os yr wyf am wneud yr holl bethau yr hoffwn eu gwneud ac i gyflawni popeth yr wyf wedi breuddwydio am ei wneud, fel gallu astudio a byw dramor er enghraifft. Rwyf bob amser wedi gweld fy addysg fel ffordd o fynd y tu hwnt i fy magwraeth dosbarth gweithiol mewn tref fach.”

Mae Eve yn llawn cyffro am yr hyn sy’n ei disgwyl yn y dyfodol. Ar ôl bod yn y brifysgol, mae’n gobeithio dilyn gyrfa fel cyfieithydd ar y pryd a’i breuddwyd hirdymor yw bod yn amlieithydd – mae hi’n bwriadu dysgu Mandarin, Rwmaneg, ac Eidaleg efallai hefyd!

Mae gan Eve y cyngor hwn ar gyfer unrhyw ddarpar ieithyddion. “Gall dysgu iaith newydd fod yn ddigalon a diflas iawn i ddechrau, yn enwedig iaith gyda gwyddor hollol newydd. Roedd yn rhaid i fi arfer â mynd yn ôl i’r dechrau a theimlo fel plentyn eto! Mae’n her enfawr a rhaid i chi fod yn barod i wneud camgymeriadau, ond mae’n bendant yn werth dyfalbarhau,” ychwanegodd.