Grŵp Colegau NPTC – Y Cyntaf i Ddarparu’r Diploma Adeiladwaith Arloesol

Mae Grŵp Colegau NPTC yn arwain y ffordd fel y coleg cyntaf yng Nghymru i ddarparu cymhwyster amgen newydd i Safon Uwch sydd wedi’i greu i ddenu mwy o bobl ifanc i’r diwydiant adeiladwaith.

Y cymhwyster yw Diploma Lefel 3 cyntaf y DU mewn Arfer Adeiladwaith Proffesiynol (PCP) a chafodd ei lunio gan y cwmni adeiladwaith ISG a’r bwrdd arholi CBAC (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru gynt). Y Coleg yw partner cyntaf y diploma PCP i ddarparu’r cymhwyster yng Nghymru.

Mae’r cymhwyster PCP – sydd wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Adeiladu (CIOB) – yn werth hyd at 56 o bwyntiau UCAS, sy’n gyfwerth â Safon Uwch. Cafodd ei greu er mwyn trawsnewid canfyddiadau sydd wedi dyddio o’r diwydiant a pharatoi pobl ifanc ar gyfer symud ymlaen at gymwysterau  amgylchedd adeiledig Lefel 4 a thu hwnt.

Mae’r modiwlau addysgu yn cynnwys cyflwyniad i fodelu gwybodaeth adeiladu (BIM), defnyddio dronau, technoleg sganio â laser, a deallusrwydd artiffisial a realiti rhithwir yn yr amgylchedd adeiledig. Nod ffocws technolegol y cwrs yw cynyddu apêl adeiladwaith.

Mae’r diploma, a lansiwyd ar 11 Medi, yn anelu at “helpu i newid y sgwrs ynghylch adeiladwaith ar gyfer addysgwyr, rhieni a disgyblion”, meddai ISG – gan ddarparu porth cynharach i’r proffesiwn ar gyfer nifer fawr o fyfyrwyr efallai na fyddent erioed wedi ystyried gyrfa yn yr amgylchedd adeiledig.

Dywedodd Prif Weithredwr ISG Paul Cossell: “Y broblem sydd gennym fel diwydiant yw bod un rhan o dair o’n gweithlu bellach dros 50 mlwydd oed, ac nid ydym yn gwneud digon i addysgu ac amlygu pobl ifanc i’r cyfleoedd anhygoel a geir yn y diwydiant hynod bwysig hwn.

“Y cymhwyster PCP yw’n hymateb ni i ymgysylltu â’r bobl ifanc disgleiriaf a mwyaf talentog yn gynharach, gyda chymhwyster Lefel 3 a all fodoli gyda chymwysterau eraill a’u hategi.”

Bydd y Coleg yn gweithio’n agos gydag ISG yn ystod blwyddyn academaidd 2018 i baratoi i ddarparu’r cymhwyster PCP i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi 2019.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r diwydiant adeiladwaith yn newid a bydd y cymhwyster hwn yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd y diploma PCP arloesol yn allweddol o ran datblygu’r defnydd o dechnolegau digidol o fewn y diwydiant. Rydym yn falch iawn ac yn llawn cyffro i fod yn rhan o rywbeth a fydd yn arwain at y newid hwn sydd mawr ei angen yn y sector.”

Mae ISG yn ymrwymedig i osod gweithwyr proffesiynol adeiladwaith gwirioneddol yn yr ystafell ddosbarth i helpu i ddarparu’r cwrs ac mae’n gweithio i wella sgiliau tiwtoriaid a dwyn prosiectau bywyd go iawn i ddysgwyr, gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf i weld y tu hwnt i’r profiad o ymweliadau safle traddodiadol.

Dywedodd Allan Perry, swyddog pwnc, CBAC: “Y peth gwirioneddol gyffrous am y cymhwyster PCP yw bod gennym gwrs cyflawn wedi’i achredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Adeiladu  sy’n barod i wneud gwahaniaeth go iawn yn awr.

“Mae ISG bob amser wedi bod yn glir o’r dechrau ei fod yn gweld PCP fel menter y diwydiant, a’r gobaith yw wrth i boblogrwydd y cymhwyster gynyddu, y bydd y diwydiant ehangach yn taflu ei ddylanwad sylweddol y tu ôl i’r diploma sydd mawr ei angen ar ein sector ni.”

Dywedodd Rosalind Thorpe, pennaeth addysg CIOB: “Bydd y cymhwyster hwn yn helpu i ddenu talent newydd pwysig i’r diwydiant, sydd ar hyn o bryd yn wynebu bylchau mewn sgiliau.

“Mae’r CIOB yn credu y bydd denu pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol i’r diwydiant adeiladwaith yn allweddol i gynyddu’r defnydd o dechnolegau digidol ac arloesi yn y diwydiant a gwella cynhyrchiant.”