Celf ‘Pop-up’ Llanidloes

Roedd diwedd prysur i 2018 ar gyfer myfyrwyr Celf yng Ngholeg Y Drenewydd wrth iddynt gymryd rhan mewn Arddangosfa Celf ‘Pop-up’ yn y Canolbarth.

Grŵp Artistiaid Llanidloes, sef grŵp a sefydlwyd yn ddiweddar, a oedd yn croesawu’r arddangosfa a daeth mwy na 500 o selogion dros gelf a’r cyhoedd i’r agoriad i weld gwaith artistiaid lleol yr ardal yn yr arddangosfa a gynhaliwyd yn yr hen adeilad Natwest, yn Stryd y Derw Mawr yn y dref, ym mis Rhagfyr. Erbyn diwedd y drydedd wythnos roedd mwy na 1350 o ymwelwyr wedi mynychu’r arddangosfa.

Dewiswyd darlithydd Coleg Y Drenewydd Nia Newson a myfyrwyr Rhiannon Micah a Cerys Hurst i gymryd rhan, ac am fod yr arddangosfa mor llwyddiannus, penderfynwyd ei chadw’n agored am bythefnos ychwanegol!

Mae Artistiaid Llanidloes yn grŵp o artistiaid sy’n byw yn Llanidloes a’r cyffiniau. Nod y grŵp yw cefnogi artistiaid a hyrwyddo Llanidloes fel tref artistig fywiog.

Yr Arddangosfa hon am ddim oedd digwyddiad cyhoeddus cyntaf y grŵp ac roedd yn gyfle i arddangos detholiad o waith gan aelodau’r grŵp.

Roedd Nia Newson wrth ei bodd gyda’r digwyddiad a dywedodd: “Roedd yr arddangosfa yn gyfle gwych i arddangos talentau artistig yr ardal, ond roedd hefyd yn gyfle i greu cysylltiadau rhwng y coleg ac artistiaid lleol.

“Cawsom adborth gwych am waith y myfyrwyr, eu syniadau a’u galluoedd technegol.

“Y peth gorau am y sioe oedd y ffaith bod modd i’r myfyrwyr weld eu gweithiau’n cael eu harddangos ochr yn ochr ag artistiaid sefydlog megis Osian Gwent, Gini Wade a llawer o wneuthurwyr print, crochenyddion ac arlunwyr medrus.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at adeiladu ar lwyddiant yr arddangosfa.”

Oes gennych ddiddordeb mewn archwilio eich ochr artistig? Beth am fwrw golwg dros y cyrsiau creadigol sydd ar gael gennym wrth fynd i YMA.