Mae Coleg Y Drenewydd yn helpu i uwchsgilio busnesau lleol

Mae Coleg Y Drenewydd wedi bod yn cydweithio’n agos â busnesau lleol i fodloni eu hanghenion hyfforddi ac uwchsgilio er mwyn helpu i wella’r dewis o gyrsiau sydd ar gael yn yr ardal leol.

Mae’r cwmni adeiladu EvaBuild yn un o’r busnesau sydd wedi cael budd, wrth i Danny Faulkes sef cyn- brentis yn y Coleg gwblhau prentisiaeth rheoli prosiectau ac yn mynd ymlaen wedyn i ddod yn rheolwr prosiect dan hyfforddiant gyda’r cwmni.

Sefydlwyd EvaBuild a leolir yn Y Drenewydd yn 2011 fel cwmni sy’n arbenigo mewn gwasanaethau fel sylfeini modiwlaidd, peirianneg sifil a sylfeini cyffredinol.

Daeth Danny ar draws y cyfle ar ôl i Nick Evans sef Cyfarwyddwr Rheoli  EvaBuild weithio gyda’r coleg i weld a oedd modd cyflwyno cwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, am nad oedd cwrs o’r fath yn bodoli ar y pryd.

Flwyddyn yn ddiweddarach cafodd y cwrs ei gyflwyno a symudodd Danny yn ei flaen drwy’r cynllun prentisiaeth yn llwyddiannus. Wedi cael profiad o weithio ym mhob un o isadrannau’r cwmni, aeth ymlaen i fod yn bennaeth ar systemau rheoli ansawdd EvaBuild.

Mae Danny wrth ei fodd wrth ystyried sut mae pethau wedi mynd hyd hyn a dywedodd: “Dewisais brentisiaeth dros yr opsiynau eraill oherwydd fy mod i eisiau parhau i ddysgu, ond hefyd roeddwn i am ennill profiad ymarferol.

“Ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr 100% pa lwybr adeiladu roeddwn i am ei ddilyn felly wrth i Goleg Y Drenewydd ddechrau cynnig y cwrs Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, sylweddolais y byddai’n berffaith i mi, am y byddai’n cadw fy opsiynau yn agored ac yn rhoi cyfle i mi weld pa agwedd ar adeiladwaith yr  oeddwn i’n ei mwynhau fwyaf oll.

Roedd fy mhrentisiaeth yn EvaBuild yn wych ac yn awr fi yw Pennaeth y Systemau Rheoli Ansawdd, felly mae’r holl brofiad wedi bod yn broses ddysgu wych i mi.”

Mae Nick ac EvaBuild yn gobeithio parhau i weithio gyda’r coleg i gyflwyno rhagor o gyrsiau uwchsgilio yn yr ardal leol, gan gredu y dylai mwy o fusnesau ddilyn ei esiampl.

Dywedodd: “Mae gweithio gyda’r coleg wedi bod yn wych i ni ac i Danny, ond mae angen i fusnesau eraill gefnogi’r fenter hefyd.

“Mae’n profi bod angen i golegau a busnesau weithio gyda’i gilydd i weld beth sydd ei angen yn yr ardal.

“Mae manteision i bawb, y busnes yn amlwg ac yna mae llwybr clir ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol sy’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt o ganlyniad.

“Mae adeiladwaith a sylfeini yn bynciau ymarferol iawn ac mae angen strategaeth glir gyda’r mathau hyn o gyrsiau.”

Gyda Danny fel enghraifft wych o’r llwyddiant y gall y rhai sy’n gadael yr ysgol ei gyflawni drwy aros yn ardal y Canolbarth a chwblhau prentisiaethau, mae Nick yn credu y dylai mwy o ymdrech gael ei wneud i sicrhau bod y llwybr gyrfa hwnnw yn cael ei ystyried yn gyfartal i lwybrau academaidd eraill.

Dywedodd: “Mae Danny wedi bod o fudd mawr i ni, prentis model ystrydebol a fwynhaodd y cyrsiau a daeth aton ni yn 16 oed a dywedodd ei fod am ennill cyflog wrth ddysgu gan nad oedd  diddordeb ganddo fe yn y llwybr Safon Uwch.

“Mae angen i rieni a’r rhai sy’n gadael yr ysgol newid eu meddylfryd a deall bod prentisiaethau yn  gyfartal i gymwysterau Safon Uwch a lefelau uwch.

Yn aml, mae prentisiaethau yn dal i gael eu hystyried fel dewis diofyn ar gyfer y rhai nad ydynt efallai wedi gwneud cystal â’r disgwyl yn eu harholiadau, neu, fe’u defnyddir fel rhywbeth i gilio iddo.

“Ond gan ddefnyddio Danny fel enghraifft, mae myfyrwyr ar hyn o bryd yn gadael y brifysgol gyda chryn dipyn o ddyled a gwybodaeth a ddysgwyd nad yw’n berthnasol i’r gweithle.

“Wrth gymharu â hyn, mae Danny yn 21 oed ac eisoes wedi cael pum mlynedd o ddysgu – yr un o oedran y bydd myfyrwyr yn gadael y brifysgol gyda’u graddau.

“Mae Danny eisoes yn opsiwn mwy deniadol i ni, o safbwynt ariannol ac o ran ei wybodaeth ac mae ganddo brofiad go iawn o’r gweithle – rhywbeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

“Bydden ni’n fwy tebygol o gyflogi rhywun fel Danny sy’n meddu ar y profiad hwn, yn hytrach na myfyriwr nad oes ganddo’r un cefndir.

“Y neges fawr yw hybu prentisiaethau i’r pwynt lle y maen nhw’n cael eu hystyried yn gwbl briodol fel cyfrwng addysg sy’n gyfartal o ran ei statws ac yn fwy deniadol.”

Ar hyn o bryd mae Grŵp Colegau NPTC yn cynnig cyrsiau byr wedi’u hariannu’n llwyr, wedi’u cynllunio i wella sgiliau unigolion a thimau ym meysydd pwnc eraill. Unwaith eto mae EvaBuild yn arwain y ffordd drwy gymryd mantais o’r cyrsiau hyn mewn arweinyddiaeth ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

I ddarganfod rhagor am y prentisiaethau sydd ar gael  gennym, ewch i’n gwefan:www.nptcgroup.ac.uk/cy/prentisiaethau, neu os hoffech fynegi diddordeb yn ein cyrsiau byr wedi’u hariannu’n llwyr neu os hoffech  awgrymu cwrs newydd, cysylltwch â’r Uned Datblygu Busnes: business@nptcgroup.ac.uk.