Mae Skaiste, myfyriwr Busnes yn ennill swydd Tai Calon

Mae Grŵp Colegau NPTC yn llongyfarch y myfyriwr o Goleg Bannau Brycheiniog Skaiste Kazlauskeine, sydd wedi mynd ymlaen i gael gwaith gyda Chymdeithas Tai Tai Calon.

Wrth astudio am ei gradd mewn Rheolaeth Fusnes a TG (BMIT) dewiswyd Skaiste i fod yn Ddadansoddwr Systemau dan Hyfforddiant newydd gyda’r cwmni o Flaenau Gwent.

Tai Calon yw un o’r cymdeithasau tai mwyaf yn y wlad, gan ofalu am Lynebwy, Tredegar, Brynmawr, Abertyleri a rhannau eraill o stoc tai Blaenau Gwent.

Bydd ei rôl newydd yn caniatáu iddi gwblhau ei gradd BMIT gyda ni, mewn cam arbennig yng ngyrfa busnes Skaiste.

Roedd Rob Flower, Darlithydd Busnes ac Arweinydd AU yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, wrth ei fodd dros Skaiste a dywedodd: “Mae hwn yn gyfle ardderchog iddi ac yn gymeradwyaeth arbennig i’n rhaglen gradd wrth ddarparu cyfleoedd gyrfa ar gyfer ein myfyrwyr, ac mae swydd fel Dadansoddwr Systemau yn gam gyrfa gwych iddi.

“Da iawn i Skaiste, mae tîm gradd BMIT yn hynod o falch ohoni.”

Gallwch ddarganfod mwy am ein cyrsiau addysg uwch ar www.nptcgroup.ac.uk