Coleg ar y rhestr fer am Wobr Llesiant

Mae Grŵp Colegau NPTC yn y ras i dderbyn gwobr o’r radd flaenaf fel rhan o Wobrau Busnesau Cyfrifol Cymru 2019.

Mae adran Adnoddau Dynol y Coleg wedi ei henwi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llesiant yn y Gweithle Dŵr Cymru. Mae’r tîm wedi cyflwyno sawl menter mewn ymdrech i gefnogi staff sy’n profi cyfnodau o iechyd meddwl gwael.  Mae’n rhan o’r rhaglen gynhwysfawr Llesiant yn y Gweithle a ddarperir gan y Coleg.

Dywedodd Melanie Dunbar, Rheolwr Adnoddau Dynol y Coleg y byddai’r gwaith yn parhau: “Y nod yn y tymor hirach yw creu diwylliant lle mae’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn cael ei ddileu, fel bod staff yn teimlo’n wybodus, yn cael eu grymuso ac yn gallu siarad yn agored.”

Mae tîm ymrwymedig o swyddogion cymorth cyntaf ym maes iechyd meddwl sydd wedi cael eu hyfforddi’n benodol ac sy’n mynd ati i gynorthwyo staff sy’n profi salwch meddwl. Mae’r Coleg wedi trefnu dosbarthiadau ioga wythnosol ar gyfer staff, yn ogystal â diwrnodau llesiant yn y gweithle sy’n cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, dosbarthiadau therapi celf, a thylino pen yn y dull Indiaidd. At hynny, cynhelir sesiynau te a siarad i annog staff i alw heibio a siarad yn agored am iechyd meddwl yn y gweithle.

Trefnir y gwobrau gan ‘Busnes yn y Gymuned Cymru (BITC) sy’n cydnabod y rhai sydd wedi cyrraedd brig y rhestr o fusnesau cyfrifol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn un o dri sefydliad sydd ar y rhestr fer yn y categori Llesiant. Grŵp Colegau NPTC yw prif noddwr y Wobr Addysg hefyd. Bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Cinio Gala ar 27 Mehefin yng Nghaerdydd.  Caiff y gwobrau eu cynnal a’u barnu gan arweinwyr busnes annibynnol i fod yn esiamplau sy’n dathlu, hyrwyddo ac, yn bwysicaf oll sy’n ysbrydoli eraill drwy eu hymddygiad a’u hymarfer cyfrifol.