Lee Stafford yn Syfrdanu mewn Digwyddiad Lansio

Syfrdanodd Lee Stafford, y triniwr gwallt enwog arobryn, driniwyr gwallt lleol gyda’i frwdfrydedd a’i ddawn mewn sioe unigryw i ddathlu lansiad ei Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol newydd.

Mae Academi Lee Stafford yn cael ei lansio ym mis Medi eleni yng Ngholeg Afan, sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC mewn partneriaeth newydd gyffrous gyda’r Coleg. Dyma fydd yr unig un o’i math yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant unigryw a dosbarthiadau meistr eithriadol i drinwyr gwallt newydd a salonau na fydd ar gael iddynt yn unman arall.

Nod yr Academi yw sicrhau mai myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yw’r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad; fel steilwyr, technegwyr lliw neu mewn unrhyw faes trin gwallt o’u dewis.

Ond doedd Lee ddim am aros tan hynny i roi cychwyn ar bethau, gan roi dosbarth meistr rhyngweithiol yn y technegau torri diweddaraf i gynulleidfa o dros 100 o berchnogion salon lleol. Ymunodd rhai o staff trin gwallt arbenigol y Coleg ag ef ar y llwyfan, gan ddangos rhai o ryseitiau unigryw a safon Michelin Lee: Pony Up, Twisted Tong a Big and Bouncy, gyda phob un ohonynt yn derbyn eu tystysgrifau am gyflawni eu ’10 Mawr’.

Cafodd y gwesteion eu croesawu gyda derbyniad pinc ei thema o ddiodydd a canapés, wedi’u paratoi gan adran Celfyddydau Coginio a Lletygarwch y Coleg. Hefyd yn bresennol oedd y perfformwyr ‘WOW Dolls’ a’r cyflwynwyr Claire Scott a Kev Johns o’r radio lleol the Wave a Sain Abertawe.

Cyn camu i’r llwyfan, dywedodd Lee, “Mae’n hyfryd i gael lansio’r Academi Lee Stafford gyntaf erioed yma yng Nghymru. Rwy’n llawn cyffro i fod mewn partneriaeth gyda Choleg mor frwd ac uchelgeisiol.

Mae’r digwyddiad heno wedi bod yn anhygoel, rwy’n credu mai dyma’r digwyddiad gorau i unrhyw goleg erioed ei gyflwyno ar gyfer digwyddiad Lee Stafford felly hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Coleg, ac os yw heno’n enghraifft dda o’r hyn sy’n digwydd yma, mae unrhyw fyfyriwr sy’n dod yma yn mynd i gael profiad anhygoel a chyffrous.”

Ychwanegodd: “Yr hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan Academi Lee Stafford yw ryseitiau o ansawdd da sy’n hawdd ac yn arbennig o effeithiol, y gallwch eu defnyddio i fynd allan i’r byd mawr a chael swydd wych.”

Ychwanegodd perchennog salon yn Abertawe, Andrew Price: “Mae hwn yn gyfle gwych i salonau yn yr ardal. Mae Lee yn cael ei ystyried yn eang o fewn y diwydiant fel Triniwr Gwallt y Trinwyr Gwallt, ac ef yw un o’r bobl fwyaf rhagweithiol ac ymroddgar dwi’n ei adnabod. Mae’n beth positif dros ben i gael hyfforddiant fel hyn ar garreg ein drws.”

Bydd Lee Stafford yn dod yn ôl yn yr hydref ar gyfer digwyddiadau pellach, ond os ydych chi’n salon sy’n dymuno gweithio gyda’r Coleg neu rywun sydd am ymuno â’r diwydiant trin gwallt, cysylltwch â ni.