Yn fyw gyda Lee Stafford a ‘Brave the Shave’

Gwnaeth Coleg Afan groesawu’n ôl y triniwr gwallt enwog Lee Stafford ar gyfer un arall o’i ddosbarthiadau meistr anhygoel.

Roedd myfyrwyr newydd o’r Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapi Cymhwysol wrth eu bodd pan gymerodd Lee amser allan o’i amserlen brysur i ddangos ei rysáit ar gyfer ‘Twisted Tong’. Wrth redeg drwy ei dechneg gyrlio, roedd Lee yn siarad â myfyrwyr am ei lwybr i fod yn enwog. O gefndir di-nod fel amatur brwd yn torri gwallt yn ystafell fwyta ei rieni, mae Lee wedi dod yn un o enwau mwyaf adnabyddus y diwydiant.

Atebodd Lee gwestiynau ar ba nodweddion y mae’n chwilio amdanynt mewn steilyddion ifanc, ei hoff dueddiadau ym maes gwallt a pha drinwyr gwallt ar eu plwyf y dylai’r myfyrwyr eu dilyn am ysbrydoliaeth.

Roedd Andrew Price sef ei gyfaill sydd hefyd yn berchennog salonau yn bresennol.  Roedd Andrew, sy’n berchen ar naw salon ledled Cymru ac sy’n cyflogi dros 120 o staff erbyn hyn wrth law i ateb cwestiynau am yr hyn y mae salonau yn edrych amdano wrth ystyried steilyddion newydd a pha sioeau a digwyddiadau y dylai myfyrwyr ystyried eu mynychu.

Yr Academi newydd yw’r gyntaf a’r unig un o’i math yng Nghymru. Mae’r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol ein hunain.  Bydd y myfyrwyr yn dysgu ‘ryseitiau’ sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ac sy’n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o’r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i nptcgroup.ac.uk/cy/schools/trin-gwallt-a-therapi-harddwch

Tra’r oedd Lee yng Ngholeg Afan, roed yn ddigon caredig i gwirfoddoli i gymryd rhan mewn gweithgaredd codi arian gyda’r Cydlynydd Pontio a Chadw, Gail Dubec. Roedd Gail wedi penderfynu cymryd rhan yn ‘Brave the Shave’ ar gyfer nyrsys Macmillan, er cof am ffrind agos a chydweithiwr iddi, a gofynnodd i Lee pe byddai ef yn fodlon eillio’n phen.

Roedd y coleg cyfan wrth law i gefnogi a chymeradwyo wrth i Lee blethu gwallt Gail yn bedair pleth ac yna eu torri i ffwrdd cyn eillio gweddill ei gwallt.

Dywedodd Gail, a oedd yn emosiynol ac yn falch iawn, ei bod wedi codi dros £1000 hyd yn hyn, sef swm llawer uwch na’i chyfanswm gwreiddiol o £600. Yna cyflwynwyd siec ychwanegol iddi am £551 gan y tîm marchnata, a oedd wedi codi arian gyda raffl fawreddog yn y Seremoni Gwobrwyo Myfyrwyr y noson gynt.

Ers ‘Brave the Shave’, mae’r cyfraniadau wedi rhagori ar £1800 ac maent yn dal i ddod i mewn!

Gallwch gyfrannu yn bravetheshave.Macmillan.org.uk/shavers/gail-dubec