Bodyshop Live! Daw 2019 i’w therfyn gydag uchafbwynt wrth i Grŵp Colegau NPTC ennill Addysgwr y Flwyddyn

Mae’r tîm trwsio cyrff cerbydau modur arbenigol yng Ngholeg Pontardawe (rhan o grŵp Colegau NPTC) ar ben eu digon, ar ôl cael ei enwi’n Addysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Bodyshop Live 2019.

Cawsant y wobr pan ddathlodd cylchgrawn Bodyshop y gorau a’r disgleiriaf yn y diwydiant atgyweirio gwrthdrawiadau gyda chinio mawreddog ar ddiwedd y gynhadledd yn Bodyshop Live! 2019 – y digwyddiad arddangos a gwobrwyo uchaf ei barch yn y sector.

Cafodd y tîm ei enwebu gan Chris Bentley o INDASA Abrasives, a ddefnyddiodd gyfleuster y Coleg i gynnal gweithdy gyda’r cwmnïau Independent Paint Supplies a FMP yn yr ardal leol. Gwnaeth y cyfleusterau a oedd ar gael yn y coleg, yr offer o’r radd flaenaf a sut yr oedd y cyfleuster yn cael ei redeg y fath  argraff arno ei fod yn teimlo nad oedd ganddo ddewis ond enwebu’r tîm.

Cyflwynwyd 19 o wobrau annibynnol i unigolion a sefydliadau ar draws y diwydiant atgyweirio gwrthdrawiadau cyfan, gan gynnwys prentisiaid ac uwch dechnegwyr, aseswyr, yswirwyr, darparwyr gwasanaethau cwsmeriaid, addysgwyr, a siopau cyrff cerbydau mawr a bach.

Mae gwobr addysgwr y flwyddyn yn arddangos yr enghreifftiau gorau o sefydliadau sy’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf, yn codi safonau’r diwydiant ac yn cynhyrchu’r sylfaen sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol y diwydiant. Gallai cylchgrawn Bodyshop weld bod Canolfan Ragoriaeth Grŵp Colegau NPTC ar gyfer Atgyweirio Cerbydau Modur a Chyrff Cerbydau Modur yn meddu ar ddigonedd o hynny.

Wedi’i lansio yn 2018, y cyfleuster newydd sbon hwn o’r radd flaenaf yw’r unig un o’i fath yn yr ardal a chafodd ei ddatblygu gyda chwmnïau sy’n arwain y diwydiant megis Car-O-liner, Junair, DeVilbiss, Sata a SNAP on tools. Mae ganddo fwth chwistrellu o’r radd flaenaf gydag ystafell cymysgu paent, bwth adnewyddu olwynion a bae gwresogi dwysedd uchel ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar drwsio cyrff cerbydau gan gynnwys tynnu a ffitio paneli o’r corff nad ydynt wedi’u weldio a’u gosod, tynnu, newid a thrwsio paneli o’r corff nad ydynt wedi’u gosod,  MAG a weldio penodol, adnabod a chywiro camaliniad y corff (gwaith JIG), paru lliwiau – metelig a pherlau, a blendio.

Mae’n anhygoel meddwl o fewn ei flwyddyn gyntaf i’r prentis ailorffennu cerbydau, Joshua Jones o siop cyrff modur Scuffed Up yn Abertawe, ennill y fedal arian yn rownd derfynol World Skills Wales. Aeth ymlaen i gystadlu yn rowndiau cymhwyso World Skills UK (yn un o ddim ond deunaw o’r prentisiaid gorau yn y DU ) a gynhaliwyd yng nghanolfan hyfforddi ryngwladol 3M yn Atherstone yn Swydd Warwig lle enillodd le yn rownd derfynol y DU o World Skills Live (un o chwe chystadleuydd yn y rownd derfynol yn y DU gyfan) yn NEC Birmingham, i’w chynnal ym mis Tachwedd.  Mae hyn yn profi ansawdd yr addysgu sydd ar gael yn y ganolfan.

Dywedodd Richard Hutchins, darlithydd ar gyfer atgyweirio ac ailorffennu cyrff cerbydau, fod y tîm cyfan mewn sioc pan gyhoeddwyd enw’r Coleg. “Doedden ni ddim yn gallu credu’r peth. Roedden ni yn erbyn rhai o’r darparwyr hyfforddiant gorau yn y DU, ac mae ennill yn hollol anghredadwy.  Rwyf i a’r tîm yn ymroddedig iawn ac yn angerddol am y diwydiant ac rwy’n credu bod y wobr hon yn cydnabod yr holl waith caled a brwdfrydedd yr ydym wedi’i ddangos er mwyn sicrhau bod y ganolfan newydd yn llwyddiant.”

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: ”Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymrwymiad y staff yn y ganolfan ragoriaeth ar gyfer cerbydau modur.  Mae hyn yn uchafbwynt ar flwyddyn wych i’r coleg, sydd eisoes wedi’i enwi’n ddarparwr hyfforddiant gorau Cymru yng Ngwobrau’r Ymadawyr Ysgol, gyda chanolfan Academi’r Chweched Dosbarth newydd hefyd yn cael ei chydnabod am wella profiad y myfyrwyr yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru.  Rydym wedi buddsoddi yn ein cyfleusterau er mwyn rhoi profiad dysgu rhagorol i fyfyrwyr sy’n eu paratoi ar gyfer y gyrfaoedd o’u dewis.”

Os ydych yn angerddol am geir, gan ymddiddori mewn atgyweirio cyrff cerbydau, chwistrellu ceir gyda’r dyluniadau diweddaraf neu adfer moduron clasurol i’w harddwch blaenorol, yna chwiliwch am NPTC Group neu ffoniwch 01639 648000.